Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd ffiniau Penfro, lle'r ymarllwys afon Teifi i'r môr; a draw, ymhell dros y don, deuai bryniau Iwerddon i'r golwg, fel cwmwl ar y gorwel.

Bwthyn bach to gwellt oedd Nantoer, fel y rhan fwyaf o dai bychain yr ardal honno. Nid oedd ond dwy ystafell ar y llawr, a math o daflod uwchben. Llawr pridd oedd iddo, wedi ei wneud yn galed a gloywddu gan fynych gerdded arno. Ceid ambell lech yma a thraw tua chyfeiriad y tân. Isel oedd v muriau a bychain y ffenestri, ond oddi mewn ac o gylch y tŷ, yr oedd popeth yn lân a threfnus odiaeth. Yr oedd un gwely yn y gegin, gwely bychan arall yn y penucha, lle y cysgai Mair ac Eiry fach, a gwely y ddau fachgen ar y daflod. Aent i fyny yno ar hyd ysgol, yr hon a dynnent i fyny weithiau ar eu hôl, yn ôl dull Robinson Crusoe gynt.

Er yn fychan, yr oedd y bwthyn yn hynod o glyd a diogel. Pan chwythai'r storm arwaf dros ehangder digysgod y rhos, ni siglid ei furiau cedyrn, ac o'r braidd y medrai'r glaw trymaf beri clywed ei sŵn trwy'r to diddos o wellt. Ar y clawdd bychan gwyngalchog o flaen y tŷ, ac yn yr ardd, yr oedd blodau pêr bron ar bob tymor. Yn y gwanwyn a'r haf, prin oedd ar y plant eisiau hyd yn oed y