Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III

DIWRNOD poeth ym mis Gorffennaf oedd. Yn ystod yr haf hwnnw, caed llawer o law, nes oedd hyd yn oed ar y rhos lawer pwllyn o ddwfr yma a thraw, ac yr oedd dyddiau tesog, braf, fel y dydd hwnnw, yn rhy anaml i'w sychu. Yr oedd ardalwyr Rhydifor yn brysur gyda'r gwair, a llawen iawn oedd plant y lle am fod gwyliau'r ysgol wedi dechrau.

Mam," ebe Ieuan ac Alun gyda'i gilydd y bore hwnnw, gan redeg i'r tŷ, mae Bronifor yn troi'r gwair ac yn galw am help. A gawn ni ddod yno gyda chwi ?

Peth braf gan y plant fyddai cael ymrolio yn y gwair a gwylio'r gweithwyr prysur, ond os eid ag un, rhaid fyddai mynd â'r pedwar, ac nid gwiw gwneud hynny. Ni wnai hynny ond creu gwaith lle'r oedd digon o waith yn barod. Felly, atebodd y fam:

"Na, rhaid i chwi eich dau ofalu am Mair ac Eiry heddiw. Yn lle dod i'r cae gwair, cewch fynd i'r rhos am y dydd. 'Rwyf am i