chwi gasglu basgedaid o lus duon bach i mi. Gwnaf bastai i chwi wedyn erbyn te yfory.'
Felly, i'r rhos yr aethant. Cymerasant gyda hwy ystenaid o laeth, a digon o fara menyn yn fwyd.
Yr oedd yn hyfryd ar y rhos y bore hwnnw. Gwisgai'r grug a'r eithin wisgoedd eu gogoniant, a deuai arogl pêr o'r caeau gwair gyda'r awel o bobman. Yr oedd digonedd o lus hefyd er gwaethaf y glaw, ac yr oedd dwylo bychain, prysur, yn taflu dyrneidiau aml i'r fasged, gan gofio beunydd am addewid eu mam. Cyn hir, hefyd, gwelid ôl y llus ar y pedwar wyneb. Lliw glasddu oedd ar y dannedd, y gwefusau, a'r dwylo.
Wedi bod wrthi'n ddyfal am amser, daeth arnynt awydd symud i fan arall o'r rhos- yn agos i'r ffordd uchaf. Arweiniai hon hefyd i Lanywerydd, ond nid oedd cymaint o dramwy arni ag ar y llall. Wrth fynd, daethant at un o'r pyllau dwfr. Rhyw bwll hir, cul a bas oedd. Gallai Ieuan ac Alun, a hyd yn oed Mair, neidio drosto, ond byddai'n rhaid cario Eiry, neu gerdded gyda hi dipyn yn nes i lawr er mwyn osgoi croesi'r dwfr. Eithr nid felly y gwelodd y bechgyn yn dda i'w wneud.