"Alun," ebe Ieuan, "cydia di yn un llaw i Eiry, fe gydia innau yn y llall, a neidiwn ein tri dros y dŵr."
Ufuddhaodd Alun, ac aeth y tri ychydig oddi wrth y pwll er mwyn cael digon o nerth i neidio drosto. Rhifodd Ieuan " Un, dau, tri," ac yna i ffwrdd â hwy. Ond rywfodd, heb yn wybod iddynt, pan ar fin rhoi'r llam, gollyngodd y ddau fachgen eu gafael ar Eiry, nes iddynt hwy eu dau fod yn ddiogel ar y lan arall, ac Eiry ar ei hyd yn y dŵr. Neidiodd Ieuan i ganol y dŵr mewn eiliad, a chariodd hi drosodd yn ei freichiau, a'i dillad yn wlyb drwyddynt, a hithau'n llefain yn enbyd gan ofn.
Bu'r tri am ennyd mewn cryn benbleth. Ni wyddent beth i'w wneud â'u chwaer fach yn ei dillad gwlyb. Nid gwiw mynd yn ôl i'r bwthyn. Yr oedd allwedd hwnnw yn llogell eu mam yng nghae gwair Bronifor. Nid peth hyfryd i feddwl Ieuan chwaith oedd rhedeg tuag yno i gyffesu wrth ei fam, yng ngwydd y bobl, pa mor ddiofal y buasai. Gwell, os yn bosibl, aros hyd yr hwyr, nes i'r fam ddod adref. Felly, wedi ychydig ystyried, diosgwyd dillad Eiry, rhoddwyd côt Ieuan yn dynn am dani, gadawyd hi i orwedd ar y ddaear, a brat Mair yn orchudd i'w phen.