yr wyf am i chwithau ddysgu ymfalchïo am yr un peth.
Cofiwch ddod yn gyfarwydd â llenyddiaeth eich gwlad. Astudiwch lenyddiaeth Saesneg, ond astudiwch lenyddiaeth eich gwlad eich hun yn gyntaf. Mynnwch wybod rhywbeth am Dafydd ap Gwilym, Elis Wyn, Goronwy Owen, Dewi Wyn, Eben Fardd, Islwyn, Ceiriog, a Daniel Owen.
'Eto, dysgwch hanes dynion mawr Cymru. Mynnwch wybod hanes eich gwlad. Mae Cymru o —— ydyw —— mae Cymru wedi magu arwyr, a chaniataed Duw iddi fagu rhai eto- mae eu heisiau arnom heddiw. Cofiwch wrth ddarllen am Nelson a Wellington a Napoleon fod dynion cyn ddewred a dewrach na'r rhain wedi byw yng Nghymru. Darllenwch hanes Llywelyn, ac Owen Glyndŵr a John Penri. Mae llawn cymaint, a mwy o ramant yn hanes y rhai hyn, a gwna fwy o les i chwi am mai er mwyn Cymru—er eich mwyn chwi-y buont ddewr.
Ysgwn i faint sydd yma a fynnai fyw i wneud rhywbeth dros ei wlad? Cofiwch hyn, ynteu-os mynnwch ddod yn fawr mewn unrhyw gyfeiriad, fel Cymry y gellwch ddod yn fawr. Ni ddaw'r un Cymro byth yn fawr wrth geisio troi'n Sais. Ni ddaeth neb erioed