Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn fawr wrth wadu ei wlad a'i iaith. Cofiwch Henry Richard, Ieuan Gwynedd, Tom Elis! Sefyll dros Gymru fel Cymry a wnaethant hwy. Dyna paham y daeth y byd i wybod am danynt ac i wrando arnynt.

Pan dyfoch i fyny, a mynd, rai ohonoch, i fyw i'r trefi a'r lleoedd poblog, chwi gewch weld llawer o Gymry yn ceisio byw fel Saeson, a siarad fel Saeson. Gwlad fechan yw Cymru, a phan ddaeth y Sais yma, a'i gyfoeth a'i blasau, ei ddysg a'i ddeddfau, meddyliodd rhai pobl anwybodus a oedd yn byw yng Nghymru ac yr oedd yma lawer yn anwybodus y pryd hynny-fod rhaid troi'n Saeson os am fod yn barchus yn y byd! Mae pethau wedi newid erbyn hyn. Mae Cymru heddiw ar y blaen mewn addysg, ond y mae rhai pobl anwybodus eto ar ôl, y rhai a'i cyfrifant hi'n anrhydedd i fethu â siarad iaith eu mam! A glywsoch chi am beth mor ffôl erioed? Naddo, mi wn. Dysgwch gasáu'r hen arfer ffiaidd yma. Tosturiwch dros y rhai sydd yn euog ohoni-rhai anwybodus heb wybod eu bod felly; ac O, blant bychain, gwyliwch rhag syrthio i'r un camwedd eich hunain. O achos y pechod hwn y bu ein gwlad gyhyd ar lawr; a chwi, blant yr ardaloedd gwledig, sydd i helpu i'w chodi yn ei hôl.