arall gyfuwch â'r tô, a byddai'n rhaid iddynt gael help un o'r gweision i ddisgyn o'u mangre uchel.
Tua phump o'r gloch, tra oedd y plant a'r gweithwyr oll ar eu ffordd i'r tŷ i gael bwyd wedi gorffen dyrnu, clywent weiddi uchel trwy'r niwl o gyfeiriad Nantoer. Llais Gwen Owen oedd, ac yr oedd sŵn wylo ynddo. Rhedodd pawb am y cyntaf at y bwthyn, a chawsant y fam yn rhedeg yn ôl ac ymlaen o gylch y fan fel pe bai wedi gwallgofi.
"O," ebe hi, mae Eiry fach ar goll. 'Rwy'n methu ei gweld yn unman."
O'r braidd y medrai, yn ei hing, adrodd yr hanes. Yr oedd Eiry wedi cysgu yn ei chôl, fel y gwnai ambell brynhawn. Rhoesai hithau yr un fach yn ei dillad, fel ag yr oedd, i orwedd ar y gwely tra byddai hi'n glanhau'r beudy, rhoi'r fuwch i mewn, a rhoi bwyd iddi. Ni fu allan hanner awr i gyd. Pan ddaeth i mewn, nid oedd Eiry yn y gwely. Nid oedd yno ond y fan lle bu. Nid oedd yn unman yn y tŷ nac allan. Galwodd arni drachefn a thrachefn, ond nid atebodd neb. Rhedodd i'r ardd a thrwy'r lôn fach i'r cae, yn ôl trwy'r beudy, ac eilwaith i bob rhan o'r tŷ. Ond nid oedd Eiry yno. Y niwl llaith oedd o'i chylch