ym mhobman, a rhu yr afon fach oedd yr unig sain a glywai. Bryd hwnnw y gwaeddodd yn ei gofid, ac y clywyd hi ym Mronifor-bedwar lled cae oddi yno.
Rhedodd pawb i chwilio-pawb yn brudd eu gwedd, a Mair a'i mam yn wylo yn hidl. Ble gallasai Eiry fach fod? Ai tybed iddi ddihuno a chodi o'r gwely i edrych am ei mam? Ond nid oedd dim i ddangos pa ffordd yr aeth. A oedd rhywrai wedi mynd i'r tŷ a'i chipio i ffwrdd gyda hwy? Na, amhosibl, neu buasai Gwen Owen wedi eu clywed yn pasio'r beudy, oherwydd os deuai neb, y ffordd hon y deuai. Nid oedd neb byth yn dod o gyfeiriad y rhos. Gan gymaint o ddail oedd ar y llawr, ni welid ôl troed yn unman. Beiai'r fam ei hun am adael y drws heb ei gloi, ond gwyddai pawb na wnaeth ond yr hyn a wnai pawb bob dydd. Nid oedd dynion drwg i'w cael y ffordd honno, ac ni chloai neb ei ddrws oni byddai'n gadael cartref am oriau ac yn mynd bellter. Ac yr oedd Eiry wedi bod ddegau o weithiau ei hun yn y tŷ fel ar y prynhawn hwnnw.
Wedi chwilio'n hir, daeth Alun o hyd i degan bychan o eiddo Eiry. Yr oedd ar ganol y cae bach, a chofiodd y fam gyda braw fod y tegan hwnnw yn llaw yr un fach pan ddododd hi yn y gwely. Rhaid, ynteu, ei bod