wedi agor clwyd y cae—peth na wnaethai erioed o'r blaen—ac wedi cerdded i'r pen draw a syrthio dros y geulan i'r afon fach a redai mor chwyrn y diwrnod hwnnw. Rhedodd pawb am y cyntaf trwy'r cae i fin yr afon, a buan y gwelsant y fan lle'r oedd y ddaear wedi llithro yn ddiweddar. Ol traed Eiry fach, yn ddiau, oedd; ac O! rhaid ei bod hi, erbyn hyn, yn gorff marw yn rhywle yn nyfroedd llwyd yr afon, ac feallai, wedi ei chario ymhell gan nerth y llif. Anodd oedd ganddynt gredu i un mor fechan fedru agor y glwyd, ond gwna rhai o'i hoed hi bethau rhyfedd weithiau, ac yr oedd y tegan bach yno ar y cae yn dyst didroi'n-ôl.
Nid oedd mwyach ond y gobaith y ceid ei chorff. Bu cymdogion yn chwilio trwy'r nos. Dilynwyd yr afon fach hyd y fan lle rhedai i'r Gwynli. Dilynwyd honno eilwaith hyd ymhell. Aeth sôn am y peth trwy'r wlad. Buwyd ddyddiau lawer yn edrych amdani, nes i'r dyfroedd gilio drachefn a dod yn ddigon clir fel y gellid gweld y gwaelod. Ond ni welodd neb Eiry fach. Ni chafwyd ei chorff yn ôl i wylo drosto. Ni chaed plannu blodau ar ei bedd. Aeth hi, y dlysaf a'r lonnaf ohonynt, yn sydyn o'u gwydd ac ni wyddai neb i ba le. Ac yn hir, hir, ar ôl hynny, teulu trist iawn fu teulu bach Nantoer.