Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn fferm. Felly y bu yn hanes Ieuan. Y calangaeaf hwnnw, cyn ei fod lawn pedair ar ddeg oed, cyflogwyd ef ym Mronifor am bum punt y flwyddyn. Blin, blin, oedd gan ei fam ei weld yn gadael ei gartref am y tro cyntaf, ond yr oedd Bronifor yn ymyl. Cai ei weld bron pob dydd, allan ar y caeau neu yn rhywle arall. Hefyd, pan fyddai Alun a Mair ar eu ffordd adref o'r ysgol, aent yn fynych i ben un o'r cloddiau, a chwibanai Alun rhwng ei fysedd nes tynnu sylw Ieuan. Gwnai yntau yr un peth yn ôl, ac ysgydwai Mair ei llaw arno. Yna, wedi'r arwydd fechan honno, âi'r ddau adref, ac âi Ieuan ymlaen â'i waith.

Yn y gaeaf, prif waith y gwas bach ar y fferm fyddai porthi'r anifeiliaid. Byddai'n rhaid iddo helpu gyda thorri'r gwellt, torri'r erfin, cymysgu'r rhai hyn a'u cario i'r anifeiliaid, etc. Deuai'r dyrnu a'r nithio hefyd yn eu tro. Yn y gwanwyn, cai weithiau helpu trin y tir. Ef fyddai'n dilyn yr oged. Gwaith wrth ei fodd fyddai hwnnw, er y gwnai iddo flino'n enbyd. Yn yr haf a'r hydref, deuai'r cynhaeaf gwair a'r cynhaeaf ŷd â digon o waith ac o bleser iddo.

Ond yng nghist fechan Ieuan, yn ei ystafell wely, yn llofft yr ystabl, ceid rhywbeth heblaw