Prawfddarllenwyd y dudalen hon
dillad. Yr oedd yno stôr fechan o lyfrau, rhai o'i lyfrau ysgol, a rhai a gawsai'n fenthyg gan hwn ac arall; a mynych, tra byddai Daniel, y gwas mawr, yn cysgu'n esmwyth ar y gwely, a'r ceffylau un ar ôl y llall yn gorffen cnoi, yn gorwedd ac yn distewi, byddai Ieuan yno ar bwys ei gist, ar yr hon yr oedd cannwyll mewn llusern, yn prysur ddarllen ymhell i'r nos.