Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Thomas Matthews, Cymru, Ionawr 1917.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgaeddu yn rhy brin i sylweddoli eu gob- eithion, oherwydd bod eu huchelgais yn rhedeg y tu hwnt i'w hadnoddau."

Yr oedd Mr. Matthews yn ddarllenwr eang, ac er mai hanes a llên gafodd fwyaf o'i sylw, rhoddodd ei draed ar lawer rhanbarth arall o wybodaeth. Dywedodd. rhywun mai perffeithrwydd yr hyddysg oedd gwybod rhywbeth am bopeth, a phopeth am rywbeth. Os na ellir dweyd am Mr. Matthews ei fod wedi cyrraedd yr ail nod gwnaeth gynnyg teg at gyrraedd y cyntaf. Dechreuodd yn rhy hwyr ar y maes ddewisodd i ennill meistrolaeth berffaith ar ei arfau, a dioddefodd oherwydd diffyg cyfarwyddyd doeth yn ei gwrs colegawl: ac wrth ystyried hyn y syndod yw iddo wneud cymaint. Gresyn na chafodd hamdden i gysegru ei hunan yn llwyr i lenyddiaeth, ond fel llawer un arall rhaid oedd iddo, er mwyn ennill ei fara, ymroi at waith y gallasai ereill llai eu dawn nag ef gyflawni cystal ag ef. Yr oedd yn athraw llwyddiannus ar blant, eithr cofier fod athrawon ac athrawon. Bardd y beirdd y gelwir Edmund Spenser, ac y mae ambelli athraw wedi ei ddonio i fod yn athraw i athrawon, ac un felly cedd Thomas Matthews.

Yr oedd o dymer naturiol garedig dros ben, ac yr oedd mor ddiymhongar ag ydoedd o garedig. Nis gallai warafun cymwynas i neb; yr oedd ei amser, a'i arian at wasanaeth y neb a'i ceisiai. Yr oedd y gair "Dyro i'r hwn a ofynno gennyt yn reddf ynddo, ac yn ei ddiniweidrwydd dioddefodd lawer o'i herwydd. Cadwodd ei hun yn dlawd ym mhethau y byd hwn, ond yr oedd yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, y rhai nid ant yn anghof tra bydd ei gyfeillion lliosog ar dir y rhai byw. Gellir dweyd ei fod yn un o'r "tannau dorwyd yn gynnar yn nhelyn ein gwlad, ond clywir adsain ei enaid eto yn y blynyddoedd a ddaw ym mhyrth llên ac addysg Cymru fydd.

Gan bob Cymro garo'r gwir,
Fy nghyfaill, ni'th anghofir."


R. W. JONES.

BREUDDWYDION CERFLUNYDD.

GAN Y DIWEDDAR THOMAS MATTHEWS.

A MINNAU un diwedydd hyfryd ym mis Mai yn di-amcan grwydro hyd strydoedd Paris, heb feddwl am ddim o'm cwmpas, fe'm deffrowyd yn ddisymwth gan daflen welwn y tuallan i oriel. Y peth cyntaf ddaeth i'm côf oedd rhigwm arferem ddweyd yn blant gartref,-

"Dai Llywelyn
Yn canu'r delyn,
A'r hen giw melyn
Yn dawnsio."

Yr enw yna, yma ym Mharis! Pwy oedd tybed? Es i fewn; nid oedd tâl meddai'r llanc wrth y drws,—"Ond torrwch eich enw, os gwelwch yn dda fan yma.

"Wrth fyned allan."

"Da," meddai, gan roddi llyfryn i mi.

Arddangosfa gerfluniau oedd yno. Mewn plastr wedi ei baentio, yr oeddent oll bron, plastr wedi ei baentio liw clai ac efydd. Yr oedd y cerflunydd yno yn arddangos ei waith ac yn barod i fynegu ei ddyheadau. Pan es i fewn yr oedd yn esbonio rhai pethau i rywrai ddanghosent yn amlwg na fedrent ddeall dim gwell na chinio da neu bris dillad. Amlwg oedd hynny oddiwrth eu gofyniadau a'u siarad. Yr oeddent yno oherwydd fod arnynt eisiau dweyd eu bod wedi bod yn yr arddangosfa yr oedd "cymdeithas" yn gofyn hynny. Eisteddais i lawr. Mae'n debyg fy mod wedi cerdded mwy o ffordd nag oeddwn yn feddwl, gan fod peth blinder arnaf. O fy mlaen yr oedd yr unig gerflun maen yno. Ac yr oedd yn amlwg oddiwrth hwn fod y cerflunydd yn ceisio gweithio allan ryw ddamcaniaeth grewyd gan ei ddychymyg. Hawdd hefyd oedd enw- Sffines yn ddiameu. Yr oedd wedi gosod y pen ar feini netrual. Ni fwriadai gerfio dim ond y pen. Amcanai y rhannau petrual gyfleu syniad i ni am y cadarn a'r diysgog-fel y bryniau oesol. Ond beth am y pen? Trefnwyd y gwallt arno mewn dull hanner Aifftaidd; gwnaeth i mi feddwl am helm, ac yna am gapan hudo. Yna'r wyneb yr oedd y trwyn a'r aeliau rywbeth yn debyg i'r rhoddi