Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Thomas Matthews, Cymru, Ionawr 1917.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gath adref pan fyddai uwchben ei rhai bach yn canu'i chrwth. Yr oedd y gwefusau prysur" a'r ên gadarn dyner yn siriol—benderfynol. Amcan y cyfan oedd i'w gwneud yn rhan o ryw gofadail. Ond pa effaith ar feddwl gwerin geisiai'r cerflunydd ddeffro drwyddi? . . . Dyma hi — y dyfodol yn ddiameu y dyfodol. Yr oedd y meini petrual i roddi syniad o sicrwydd diysgog dyfodiad yr hyn ddarparodd y Goruchaf ar ein cyfer. Ond beth yw? Wele dynerwch, caredigrwydd ; wele rith gwên ar y gwefusau;—ond beth oedd argraff y cyfan i fod? . . . .Nid oedd siw na miw i'w gael o'r gyfrinach. Yr oedd y dirgelion oll dan glo, a dim ond ffydd a thiriondeb, caredigrwydd ☑ phenderfyniad oedd i'w gweled yno. Gan hynny, beth welai'r llygaid tywyll Dimdim. Nerth ffydd yn unig oedd i'w gael—mae popeth mor dywyll i ni ag oedd i'r "Hen wyrda gynt," fel yr oedd i Sion Cent pan ofynnodd,—

"Yr enaid ni wyr yna,
O Dduw! ba ffordd yr â?"

Yn ddiddisgwyl torrodd llais moesgar arnaf—a fedrai perchennog y llais fod o ryw wasanaeth i mi? Yr oeddwn yn falch iawn o gael siarad â rhywun, a chyda hyn dechreuwyd ymgom hir; a minnau'n ceisio cael gweled a oedd fy narlleniad o amcan y Sffines yn gywir. Yr oedd yntau fel plentyn yn llawen am i mi ddeall cystal. Yna aethom o un peth i'r llall, oedd yno yn yr oriel.

Yr oedd pan ddechreuodd wedi ceisio cerfio ei waith yn llyfn "yn ôl yr hen arfer cynt "ond yr oedd rhywbeth yn eisieu yn y gwaith llyfn. Ni allai gyfleu yr hyn amcanai, cymeriad y dyn; ei nert meddyliol; yr argraff, hwyrach, mai gwe edydd oedd y dyn, oherwydd gwelir hyn yn fynych ar wyneb ambell i fardd a phregethwr; y dyhead am gyfiawnder sydd a wyneb arall, yr hyn yr oedd ef fel cerflunydd a chymaint awydd ei roddi yn ei bortreadau. Felly gadawodd y llyfn a esmwyth am lai o lyfndra a llai o esmwythdra yn ei waith. Oedd, O oedd, yn lla gorffenedig ym marn rhai, ond llwyddai gyfleu mwy dyna'r fantais, a barnai hy yn werth yr aberthu. Ceisiai awgrymu, pan wnai bortread o ddyn, y caffech yno heblaw portread, ryw gymaint o'r "peth byw" oedd tu—cefn. Caffech ryw gymaint o wir anadl einioes y dyn.

A oedd dan ddylanwad Rodin?

O na!" Ni wyddai ef ddim am Rodin pan gymrodd y cam hwnnw. Gweithiodd hyn allan yn yr Unol Dalaethau drosto ei hun, flynyddau yn ol, cyn iddo erioed glywed am Rodin. Dysgwyd ef yn unol ag ysgol John Gibson ar y cychwyn; yn wir, Miss Harriet Hosmer, disgybl Gibson, a'i hyrwyddodd ar y cychwyn. Dyma, yn ei farn ef, wendid ysgol Gibson—aberthent ormod i bertrwydd. Trueni nad oedd Gibson wedi myned rhag ei flaen a lliwio ei gerfluniau i derfyn rhesymol. Yna, hwyrach, buasai wedi cyrraedd uchafnod gwell fel cerflunydd. Efe oedd y mwyaf y goreu ollo'r godidog gerflunwyr hynny wnaethant eu cartref yn y Ddinas Barhaus. Yna aeth i siarad am ei addysg yn yr Unol Dalaethau; daeth eisiau gair arno— rhoddais y gair iddo yn Gymraeg. Yna gan droi ataf ac yn edrych ym myw fy llygaid gofynnodd,— " "Ac o ble yng Nghymru yr ŷch chi?"

"O'r un lle a chithe, nid . . . ŷch chi?"

Ie, ond ffordd ŷch chi'n 'nabod i?" Wyt ti ddim yn cofio'r 'penhillion o'et ti'n arfedd wneud 'slawer dydd? Wyt ti ddim yn cofio hwnnw wnest,——Dai Lywelyn?"

"Nâd ŵ i."

Ac yna mi a'i dywedais—a sut y daeth y pennill i'm cof wrth weled y daflen ger y drws, a'm tywysodd i fewn. Yna cofiodd—wel! nid oes angen son am gryn dipyn a siaradwyd. Ar ol ychydig, daeth yn ol i siarad am ei addysg, sut deffrodd Ceridwen ef; am ei ymdrechion. Sut bu arno yn fynych yn yr Aifft ac yn yr Eidal. Gweithiodd ei ffordd i'r Aifft fel morwr, ar long yn perthyn, o bob man yn y byd, i Aberystwyth, ac oddiyno i'r Eidal yr un modd. Cerddodd o dref i dref, yn awr yn cysgu dan y sêr, bryd arall yn newynog ac yn sychedig. Yna cafodd waith am ychydig ddyddiau a bu wrth ben ei ddigon am rai wythnosau. Yn y diwedd daeth i Rufain, ac ar ol peth trafferth cafodd waith fel cerfiwr. Pan gredodd ei fod wedi gweled yr oll oedd eisieu arno yno, crwydrodd oddiyno o dref i dref, 'nawr ac eilwaith mewn cyni, a byth ar ei ddigon. Daeth i Baris, bu yno am ychydig, ac oddiyno dychwelodd i'r Unol Dalaethau —yn llawn hyder a gobaith. Yno gweithiai liw dydd, breuddwydiai a chynlluniai liw nos priododd. Daeth gwaith iddo, digon i'w gadw heb weithio fel cerfiwr. Felly y bu am rai blynyddau, yna crwydrodd yn ol i Baris, ac yn unol a chais a chyngor cyfeillion trefnodd yr arddangosfa fechan yr oeddem ynddi.