Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gellir olrhain y dadgymaliad hwn sydd yn ein llenyddiaeth hanesyddawl, i'r ffaith a grybwyllasom eisoes; ond, a siarad eto mewn dull cymhariaethawl, y mae yr ychydig ag sydd ar gael, â digon o dystiolaeth ynddynt eu hunain i gadarnhau nad ydynt ond dolenau euraidd o gadwyn hanesyddawl, a fuasai yn ddyddorawl i bob oesau i ddyfod! Nid ydynt ond fel rhyw grwydrol sêr, ychydig wedi eu gadael mewn cyferbyniad i'r nifer fawr a fu unwaith yn britho tudalenau ein hanesiaeth. Profant er hyny, nad oedd y Cymry islaw y cenedloedd cymydogaethawl mewn celfyddyd, llenyddiaeth, a gwareiddiad; ond o'r tu arall, profant y daliant y Cymry eu cyferbynu â'r rhai mwyaf dysglaer a goleuedig o honynt, yn enwedig yn eu hysgrifeniadau moesonawl. Meddyliem mai nid gweithred gwbl annyddorawl fyddai dechreu gyda PHENTREF CYNWYL GAIO.

PENTREF CYNWYL GAIO.

Ymddengys fod y pentref bychan a thawel hwn wedi bod yn enwawg iawn yn yr oesau a aethant heibio, ac wedi bod yn dref bwysig yn y Deheubarth. Dywed Lewis, yn ei "Topographical History of Wales," ei bod yn cael ei galw mewn rhai o'r hen ysgrifau yn "Caer Gaio."[1]

Y mae y gair "Caer" yn dangos fynychaf fod y lle hwnw ag sydd yn dwyn yr enw, wedi bod ryw amser yn cael ei amddiffyn naill ai gan gastell neu ryw adeilad milwrol arall. Gan fod amryw o hen olion hynafiaethol Rhufeinig yn ac o amgylch y pentref, mae yn rhaid fod y lle yn adnabyddus i'r genedl feiddgar hono. Yn ol traddodiad, yr oedd yma dref fawr

  1. Gelwid hi Caer Gaio yn amser Llywarch Hen, o.c. 520 hyd 630 megys:—
    Lluest Cadwallawn tra Chaer
    Caiaw, byddin ac ynnwru taer,
    Can' cad a thori can' caer.