Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi ei hadeiladu ganddynt, gan mwyaf o briddfeini cochion (bricks,) a'i bod yn adnabyddus yn herwydd hyny wrth yr enw "Y DREF GOCH YN NEHEUBARTH." (Gwel "Lewis's Wales" eto; dan yr enw "CONWYL Cayo.") Mae'n hawen eto yn anesmwyth, wrth weled y mawredd a berthynai gynt i'r lle hwn, a'r hwn sydd fel wedi ei lwyr ddileu. Gwrandewch hi!

"Dref Goch yn Neheubarth," —machludodd dy fawredd,
Nid ydyw yn aros dy falch rwysg yn awr!
Dygaerau a ddrylliwyd, dy furiau y’nt garnedd,
Yn gorwedd oll heddyw'n gyd-wastad â'r llawr!
Dy eang balasau, a'th lysoeddheirdd dedwydd,
Faluriwyd fel nad oes braidd olion i'w cael,
O'r manau y safent mewn gwychder ysplenydd,
Lle trigai dy arwyr, rai dewrion ac hael.

'Ry'm fel pe yn clywed rhyw erchyll floeddiadau,
Yn adsain hen ddyffrynyr Arnell, swn cad,
A thwrw'i thabyrddau fel trymawl daranau ,
A chrechweny bleiddiaid wrth dref Gaio fad ;
Tingciadau dur arfau, oer waedd y Rhufeinwr,
Mewn iaith anneallus,clywch drwst fel cwymp mur,
Clywch ruthr y gadgyrch! min -fin gledd pob milwr,
A Chaio yn syrthio i ddwylaw ein gwŷr!


Mae у ffaith fod llawer o'r priddfeini hyn wedi eu darganfod yn yr ardal hon yn ddiweddar, i raddau yn cadarnhau y traddodiad, neu'r ffaith . Heblaw hyn yna, mae yno lawer o leoedd sydd a'r geiriau neu enwau "Coch" a "Dref" yn nglŷn â hwynt. Yn nghymydogaeth y pentref y mae hen olion a elwir "Melin milwyr;" mae yn eithaf tebygol mai yma yr oedd y Rhufeiniaid, yn ystod eu harosiad yn y rhan hon o'r wlad, yn malu eu hŷd, &c. Nid oedd y milwyr Rhufeinig yn cael ymsegura, megys ag y mae milwyr Prydain yn y dyddiau presenol; gorfodid hwy pan na buasent yn dylyn eu "galwedigaeth", ysef rhyfela, i adeiladu tai, i falu ŷd, ac i wneyd ffyrdd o'r naill ran o'r wlad i'r rhan arall, y rhai a elwir yn