Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr hen adeilad orwech ao urddasol hon ydyw yr unig un o bwys ag sydd yn tynu sylw yr ymdeithydd. Y mae yr adeiladaeth yn perthyn i'r dullwedd (style) Gothicaidd, ac a ystyrir yn hen iawn. Y mae hynafiaethwyr yn methu a phenderfynu yn mha gyfnod ei hadeiladwyd, yn herwydd absenoldeb unrhyw beth o bwys yn y muriau, &c., ag a fyddai yn debyg o arwain y dyb yn gywir at yr amser yr adeiladwyd hi. Y mae yn yr Eglwys hon ddau arlun cerfiedig (figures) yn noethion, y rhai a feddylir ydynt gerfluniau o Adda. ae Efa. Y mae clochdy mawreddawg a banawg yn nglŷn â'r Eglwys, yr hwn a ystyrir fel un o'r rhai uchelaf yn y sir, ac yn dangos yn ei adeiladwaith rywbeth tebyg i ddullwedd ein castelli. Meddylir nas gellir olrhain ei adeiladaeth yn mhellach yn ol na'r 12ed ganrif.[1] Y mae y tai ag sydd yn cyfansoddi y pentref bychan a phrydferth hwn, oll o adeiladwaith diweddar, ac yn edrych yn lanwedd. Y mae ei sefyllfa ar dipyn o godiad tir, a'r Afon Annell yn rhedeg ar y naill ochr iddo; a Nant Frena ar yr ochr arall iddi, yr hon sydd yn tarddu yn uniongyrchol o ucheldir "Brenach."[2] Ychydig bellder uwchlaw i'r pentref saif y ficerdy, mewn man prydferth yn nyffryn tlws yr Annell. Ceir golwg dra boddhaus oddiar ei ddrws; i'r ochr ddeheuol y mae y pentref, ei Eglwys a'i glochdy godidog yn dal y llygad; ac ar yr ochr aswy, y mae golygfa ddyddorol i'w chael ar dirweddau (sceneries) swynawl,—a dolydd ffrwythlawn a maesydd gwyrdd-wawr tlws ddyffryn yr Annell, yn estyn o'n blaen. Mae y goedwig ysplenydd a elwir "Coed- y-byllfa yn ymdoni yn awelon balmaidd Maihafhin, a chân yr adar yn adseinio bro a byn, yn fawl i'w Perydd am dymhor mor ogoneddus a hyfryd! Ychydig

yn is i lawr y saif "Crug-y-bar."[3] Beth all ystyr yr

  1. Gwel yr Archæologia Cambrensis, III. Series, page 300
  2. Gwel Attodiad
  3. Gwel Attodiad