Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enw hwn fod? Dywed rhai mai "heap of confusion" ydyw ei ystyr. Y mae haenau (strata) daearegol y lle yn ymddangos fel pe wedi bod dan gynhyrfiadau arswydus ryw amser. Mae gan yr Annibynwyr gapel prydferth yma. Y'n agos gyferbyn a "Chrug-y-bar" y saif "Bryn-y-garth"; y mae olion capel i'w ganfod yma. Y mae olion hen gapel arall i'w weled mewn cae perthynol i Brondeilo, ysef, capel Cwrt-y-cadno, ychydig yn is i lawr. Gelwir y cae, "Cae'r capel." Gellir casglu yn naturiol ei fod wedi ei enwi, neu ei gysegru, i Sant Teilo, yr hwn ydoedd un o seintiau mwyaf enwog yr Eglwys Frydeinig, ac yn Esgob Llandaf, o.c. 540, ac i'r hwn y mae cynifer o eglwysi a chapelau wedi eu cysegru yn esgobaethau Llandaf a a Thy-ddewi. Yn agos i Frondeilo, y tu arall i'r dyffryn, y mae hen balas Llanwrthwl. Y mae rhai hynafiaethwyr yn barnu fod Eglwys wedi bod yma ryw amser, a'i bod wedi ei chysegru i "Sant Wrthwl." Mae y ffaith fod hen ywen ardderchog i'w gweled yno yn awr, mewn cae tu draw i'r Annell, a chyferbyn a'r tŷ, yn profi i raddau pell fod hen gapel neu eglwys wedi bod yno yn yr amser gynt. Mae yn debyg ei bod yn hen arferiad cyn cred, cyn cof a chadw, i blanu coed Yw mewn mynwentydd, megys ag y gwelir yn ymylon yr hen gapelau henaf yn ein hynys. Y mae cae arall ar y tyddyn hwn, a elwir "Cae'r polion."[1] Cafwyd dwy o feddfeini yma, yr rhai a symudwyd yn ddiweddar, ac y maent i'w gweled yn awr ar y lawnt gyferbyn a'r Dolau Cothi, palas y boneddwr a'r gwladgarwr drwyddo hwnw, John Johnes, Yswain, un o brif noddwyr yr Eisteddfodau, a Chymru a Chymraeg. Y mae yn gerfiedig ar un o'r meini crybwylledig

yr hyn a ganlyn:"Servator fidei patri æque semper amator, Hic Palinus jacet, cultor pientissimus Equi,"

  1. Cae Pawlin, neu Paulinus, efallai.