Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neu yn debyg yn Saesoneg, "Here lies Paulinus, a most pious maintainer of justice, preserver of his religious principles, and constant lover of his country." Tybir mae cofebion ydynt y meini hyn ar feddau rhyw arwyr a syrthiasant yn "Mrwydr fawr Llanwrthwl," a ymladdwyd rhwng y Rhufeiniaid a'r Brutaniaid Mae yn bur debyg mai Rhufeiniaid oeddynt, o leiaf gellir casglu oddiwrth enw Paulinus mai Rhufeinwr ydoedd. Mae ereill yn barnu mai Paul Hen a feddylir. Hon efallai ydoedd y frwydr olaf a ymladdwyd yn y rhan hono o'r wlad, rhwng y Cymry a'r treisruthrwyr Rhufeinig. Mae ein hawen eto yn anesmwyth, ac yn barod i arllwys allan ei hyawdledd yn ffrwd o deimlad, gan lawenydd a gynyrcha y meddwl i̇'n cyndadau dewr a gwladgar gael perffaith oruchafiaeth ar y genedl feiddgar a chigyddlyd, a fu yn eu gormesu mor drwm am gynifer o flynyddau!

Am flinion flynyddau y gwnaethant ormesu
Y wlad oddiamglych âg haiarnaidd law;
Ein tadau o'ent gaethion dan iau yr estronlu,
A Chaio yn orsaf Rufeinig o fraw!
Ar ei heolydd y prangciai'r rhyfel-feirch
Rhufeinig, mor esmwyth a nwyfus eu carn ;
Fe welwyd y gelyn yn gyru'r dihefeirch,
Nes enyn y gwreichion yn fflamau o'r sarn.


Cadarnhau dy furiau wnaethant,
Gwnaed rhag-furiau cedyrn erch!
Teimlent sicrwydd mewn dyfodiant,
Adeiliadent gaerau derch;
Rhoi gwibdeithiau wnai'r treis-ruthwyr
Hyd y wlad mewn rhyfyg syn;
Gan yspeilio, erch ormeswyr,
Dda a defaid bro a bryn.


Cymru druan oedd yn huno,
Megys gwelir Etna boeth,
Cyn yindoro, cyn dylifo
Ei ddialedd tanllyd noeth;
Llwfr ydoedd ein dewr dadan,
Megys enyd, er eu grym,