Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfreithiwr enwawg, ac yn ddiplomatydd galluawg. Fe'i penodwyd yn ganghellydd Normandy ar yr 8fed o fis Ebrill, 1418; ac a gysegrwyd yn yr Eglwys gadeiriol yn Esgob Worcester ac Eli ar y 3ydd dydd o'fis Rhagfyr, 1419. Ymddengys yn ol "Rymer's Fædera," iddo fod yn Normandy o'r flwyddyn 1414 hyd y flwyddyn 1420. Yr oedd Philip mewn bri mawr gyda'r Brenin Harri V. (Gwel ei hanes yn mhellach yn "Williams' Biographical Dictionary," tudal. 339.) Bu farw yn y flwyddyn 1435.

(6) "Ni wnai gwaeth, &c." Ni wnai lai no deuwr.

(7) (8) "Da byw," live stock; Da bathawl, coined speciæ.

(9) "Dyfnwal Moel Mud." Brenin Prydain, yr hwn, ebe rhai awdwyr, a deyrnasodd dros Brydain benbaladr oddeutu 400 o flynyddau cyn dyfodiad y Messiah; ond ffug ydyw hyny. Y mae yn enwog am y cyfreithiau a ffurfiodd; meddiant o ba rai a gafodd Hywel Dda, pan yn llunio ei gyfreithiau. Mae y "Trioedd Cyfraith" ganddo yn ei gyfreithiau. Ond y mae beirniaid enwog mewn hanesyddiaeth, megys Mr. T. Stephen o Ferthyr, yn dwyn Dyfnwal Moel Mud i waered (os ydym yn cofio,) i̇'r 12ed ganrif.

(10) "Y gronyn haidd." Yr hynafol "fesur hir" yn ngwaith Hywel Dda, megys, "y tri gronyn haidd.” (Gwel y "Myfyrian Archæology," vol. iii.)

(11) Dengys wrth yr ymadrodd yn y ddwy linell yma, fod Philip yn amaethydd brwdfrydig, ac ei fod deall ei fusnes yn dda. Mae yr aradr yn hen offeryn yn Nghymru. "Aradr yr arsang," i.e. "overtreading. plough and mattock." "This mode," ebe Meyrick, yn ei "Costume of the Ancient Britons and Irish," tudal 21; gwel hefyd arlun o honi yn plate v., p. 21, "This mode was practised by the Egyptians, and is exhibited on the walls of a sepulchre at Elcithias;