Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

the figure with the wooden plough, on which he treads (arsang) to bear it to the earth by its weight, is taken from an illumination in the British Museum, apparently about the age of the 7th century, and what is extremely remarkable, the cattle which draw the plough are the ychen banawg, literally hunched oxen, as they are represented, which do not occur in any later illumination." Mae yn debyg mae Illtud ydoedd awdwr yr "Improved Plough," yn y 5ed ganrif.

(12) Pale yr oedd y "Cwmwd hir," &c., a "Chantre' Maenawr"? Yr oeddynt yn sicr o fod yn gorwedd yn nghymydogaeth Caio.

(13) "Tai'r Ewythyr, &c." Yma mae y bardd yn cyfeiriaw at wahanol deitlau Philip i'w ystad; megys "Tai yr hynaif;" "Rhan o dir yr hen dad, a'r tad da," (taid); ac am dai ei ewythr, a ellid dybied oedd yn nwylaw Saeson,-"yn nhai Sais," &c., ac mae y bardd yn dangos iddo ei ewyllys da drwy ddymuno, "a'u caffo eilwaith."

(14) "Tai Sied," shed—a shed of land, ebe Tegid.

(15) "Aent hwy i sied." A common term for strayed sheep; defaid sied, ebe Tegid.

(16) "Yni." Hyd oni.

BER DREM AR GYMERIADAU ENWOG EREILL A FUONT YN BYW YN NGHAIO.

YR hyn sydd yn gosod mwyaf o fri ar bob tref, neu bentref, tŷ, neu dŵyn, ydyw, os bydd ffawd wedi taflu rywbryd ryw berson enwog i breswylio yno. Mae Stratford-upon-avon ag anfarwol fri yn ei choroni, yn unig am i'r bardd Shakspeare fod yn byw yno. Y "Deserted Village," a wnaethpwyd yn fythwyrdd drwy Oliver Goldsmith; lleoedd ereill ydynt wir