Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enwog yn unig am yr un rheswm. Fe welir bellach nad ydyw Pentref Caio mewn un modd, yn anenwog yn yr ystyr hon, gan ei fod wedi ei fendithio à chymeriadau nodedig ac athrylithfawr. Yn mhlith y "cydser" hyn y saif enw Dafydd Jones o Gaio. Ganwyd ef yn Cwm Gogerddan, plwyf Caio, yn y flwyddyn 1710. Bu yn byw yma hyd ei ail briodas, pryd y symudodd i Hafod-dafolog, Llanwrda. Bu farw yn y flwyddyn 1777, yn 67 oed, ac a gladdwyd yn Nghrug-y-bar, ger Caio. Ei gampwaith oedd cyfieithu i'r Gymraeg "Salmau a Hymnau Dr. Watts." Daeth yr argraffiad cyntaf o'r "Salmau” allan yn y flwyddyn 1753; a'i gyfieithiad o'r "Hymnau" yn mhen ychydig flynyddau wedi hyny. Yr ydoedd hefyd yn awdwr casgliad o "Hymnau," yn dair rhan, dan y titl "Difyrwch i'r Pererinion, o fawl i'r Oen, yn cynwys hymnau ar amryw destynau o'r Ysgrythyr Lân." Mae ef hefyd yn awdwr llawer o ddarnau ar wahanol destynau, yn amryw gyfnodolion ei oes. Mae ei syniadau yn ei "Salmau a'i Hymnau" yn dduwiol, ac yn dda, ac yn llawn tynerwch calon; ond nid ymddengys ei fod yn meddu awen danllyd a gwreiddiol. Nodir ei "66th Hymn," yn ail lyfr Watts, fel un o'r cyfieithiadau hapusaf yn ein iaith. Gŵr enwog iawn a fu yn offeiriad yn Nghaio ydoedd y Parch. Eliezer Williams, mab yr anfarwol Barch. Peter Williams, o Gaerfyrddin, yr hwn sydd yn adnabyddus i bob dyn yn Nghymru, yn herwydd yr argraffiad ysplenydd a ddygodd allan o'r Beibl yn Gymraeg, ysef "Beibl Peter Williams." Gorphenodd ysgrifenu ei nodiadau esponiadol, y rhai sydd mor ryfeddol o syml ac hyfforddiadol, yn mis Mai, 1770. Cynwysai yr argraffiad cyntaf 3600 o gopiau. Yr ail, yn y flwyddyn 1774, 6400 o gopiau; a'r trydydd, yn 1796, 4000 o gopiau, ond cyn gorpheniad yr ar-