graffiad olaf, fe fu farw, yn nghanol ei orchestwaith a'i ddefnyddioldeb. Dylasem ddywedyd iddo argraffu y "Concordance" yn 1773; ac iddo argraffu 4000 o gopiau Cymreig o "Cann's Bible," yn nghyda nodiadau cyfoethawg a synwyrlym. Pwy a ŵyr—ie, pa angel a fedr ddychymygu y dylanwad moesol a chrefyddol a gafodd yr un-mil-ar-bymtheg (16,000) Beiblau hyn yn ein gwlad! Mab i'r dyn rhyfeddol yna ydoedd y Parch. Eliezer Williams, M.A. Pan oedd yn Chaplain ar fwrdd H.M.S. "Cambridge," yr ydym yn cael iddo dderbyn gwahoddiad, oddiwrth Arglwydd Galloway, i ymgymeryd â ficeriaeth Caio yn y flwyddyn 1784. Yr ydym yn cael ei fod hefyd yn hynafiaethydd enwog, yn ohebydd i'r "Cambrian Register,"[1] "The Gentleman's Magazine," &c. Yr ydoedd hefyd yn fardd galluawg iawn. Argraffodd yn 1801, ei "Nautical Odes, or Poetical Sketches, designed to commemorate the achievements of the British Navy," cyhoeddiad pa rai a ddygodd fri mawr arno. Treuliodd y rhan ddiweddaf o'i oes lafurfawr yn Llanbedr, lle y sefydlodd ysgol Ramadegawl, o ba un yr urddid cystadleuwyr i'r urdd Eglwysig. Wedi iddo arolygu y sefydliad rhagorol hwn am bedair ar ddeg o flynyddau, efe a fu farw ar yr 20ed o fis Ionawr, 1820. Cyhoeddodd ei fab, yn y fl. 1840, gyfrol wythplyg harddwych o'i weithiau yn yr iaith Saesonig, gyda'r teitl canlynol, "The English Works of the Revd. Eliezer Williams, M.A., Vicar of Lampeter, &c., with a Memoir of his Life."
Yr oedd Mr. Williams yn fardd Cymreig o enwogrwydd nid bychan. Y mae awdlau ac englynion o'i waith yn "Seren Gomer." Yr oedd yn gyd—feirniad â Iolo Morganwg, yn Eisteddfod Caerfyrddin, yn 1824. Yr oedd yn gohebu i brif gylchgronau ei oes. Dyn mawr a gweithgar oedd hwn.
- ↑ Gwel Attodiad