Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

darw, a grogai ein tywysogion gynt am eu gyddfau, ydynt y rhai a ganlyn, a rhai cyffelyb:—

"Eryr Pengwern, pell gelwid heno;
Ar waed gwyr gwelid."

"Tarw trin, rhyfel adwn."—LLYWARCH HEN.

Yn awr, ni a awn rhagom i wneuthur rhai sylwadau ar yr AFON COTHI.

AFON COTHI

Yr ydym braidd wedi hysbyddu y testyn hwn yn ein hymdriniaeth â'r Ogofau, ac yn ei berthynas â gwrthddrychau ereill sydd wedi bod dan ein sylw yn y rhanau blaenorol o'n traethawd. Y mae y Cothi yn tarddu, neu yn suo allan, o hen gors ar fynydd a elwir "Bryn Catel," yn mhlwyf Llanddewi Brefi, uwchlaw pentref enwog Caio. Yr unig hynodrwydd sydd yn perthyn i'r afon hon yn awr, ydyw ei bod mor orllawn o bysgod. Y mae er's blynyddau bellach yn cael ei dyogelu (preserved) gan warchodwyr sydd dan amryw foneddigion, y rhai sydd wedi ymffurt yn gymdeithas i'r perwyl hwnw, dan yr enw "The River Cothi Fishing Club." Ac anferthawl y lles y mae wedi ei wneyd, drwy gario allan eu gwahanol drefniadau er sicrhau llwyddiant eu hanturiaeth. Y mae boneddigion o bob rhan o'r deyrnas yn talu ymweliad â'i glanau, er cael ychydig—dywedwn llawer iawn—o fwyniant i ddal y pysg amrywiol sydd yn awr yn lluosog yn yr afon hon. Gan fod cymaint o son am y "pysgota" ysplenydd sydd i'w gael yn Nghothi, fe dalodd awdwr y llinellau hyn ymweliad â'i glanau yn mis Awst, 1857, er mwyn dadluddedu ychydig ar ei feddwl, a chael tipyn o bleser yn y gelfyddyd ddiniwaid o "bysgota plufyn," ac ni anghofia fyth y digrifwch a'r mwyniant a gafodd yno. Fe ddaliodd ef a'i gyfeillion ddeugain pwys o frithyllod ysplenydd, a dau sewin oddeutu pwys a haner yr un!