Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei "History of Wales," cerflun o ba un sydd i'w weled gan Theo. Jones, yn ei "History of Brecknockshire," ac ei fod yn dwyn arno yr hyn a ganlyn, "Imp. Cassiano," "Imperatori Domino Nostro Marco Cassiano Latino posthumo pio felici Aug." Mae yn rhaid i ni gyfaddef fod y tipyn gwybodaeth o'r Lladinaeg sydd genym wedi ei dirwyn i'r pen wrth geisio chwalu ystyr y llinellau yma. Gan mai yn yr un fan y cafwyd y cerig, mae genym le i feddwl mai yr un ydynt. Ond sut y mae un yn "Ponius Posthumus," a'r llall yn "Posthumo Pio," sydd yn ein dyrysu; pe baem ni yn cael cyfle i weled yr ysgrif wreiddiol, gallem wed'yn benderfynu pa un sydd yn iawn. Dywed Jones, yn rhagymadrodd ei History of Wales, i'r maen hwn gael ei symud gan ryw "Vandal" o Drefcastell, a'i fod yn mur Parc Dinefwr. Yr ydym wedi gwneyd ymchwiliadau am dano yno, ond yn aflwyddiannus. Symudwyd ef, ebe fe, yn y flwyddyn 1769.

Yn mhlith pethau ereill sydd o bryd i bryd wedi eu darganfod yn Nghaio a'r ardal, y mae dwy wddfdyrch aur (gold torques) wedi eu cael ar dir y gwladgarawl J. Jones, Ysw,, Dalaucothi. Y mae yn meddiant y boneddwr hwn faen gwerthfawr a elwir Amethyst, ynghyda bust (intaglio) o'r dduwies Diana. Cafwyd hefyd yn y flwyddyn 1792 dair mil o fathodau copr, ac yn eu plith yr oedd rhai o amser Gallienus, Solina, ac o'r deg-ar-hugain gormesdeyrn ereill. Y maent yn'dyfod o hyd i rywbeth yma yn barhaus, yr hyn sydd yn brawf anwrthwynebol fod y Rhufeiniaid wedi bod mewn rhwysg a mawredd yma yn y canrifoedd a aethant heibio. Nodwn yn y fan yma eto, fod y "Gododin" yn llawn o gyfeiriadau yn nghylch yr "aur dyrch." Nid oes un ddadl nad cyfeiriadau at yr addurniadau, megys llun eryr, llew, neu