Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwlych y deth, y gwalch uchel,
A llaith ddwrn, a'r llaeth a ddêl."

Englyn arall:—

"Gwr am chwech trwy afon fechan,—ddyg ddyn,
Ddygwyddodd yn drwstan;
Yn y rhyd, ebe dynaran,
Rho swllt, cei frysio i'r làn."

Yr oedd yr ysgrifenydd yn dysgwyl cael rhyw awgrym yn nghylch yr Ogofau yn y "Cambrian Triumphans," "Liber Landavensis," y "Iolo MSS.," neu yn "Camden's Britannia," ond yn hyn fe'i siomwyd. Mr. Williams ydyw yr unig hynafiaethydd ag sydd wedi taflu ei enaid megys i'r testyn; ac mae yn rhaid cyfaddef, na fuasai genym ddim (ond ffiloreg rhai o "Ysgol y bendro," efallai) o bwys ar lawr, yn nghylch y lle rhyfedd hwn, oni buasai ef. Dylasem ddyweyd hefyd fod yr ysgrif sydd ar feddfaen Maes Llanwrthwl i'w gweled yn "Camden's Britannia." Fe gafwyd careg yn ymyl y Black Cock, ar fynydd Trefcastell (gwel "Williams's Works," p. 154,) yn dwyn yr ysgrif "Poenius Posthumus." Dywed ef fel yma (a chyfeiria at Annals of Tacitus, book 14, chap. 37,) "Poenius Posthumus, who had disgraced himself by his irresolution and misconduct, (i. e. during the absence of the Roman Army on the expedition to Anglesey, when the indignant Britons put several Roman garrisons to the sword, and Paulinus, on his return, gained a complete victory over them,) was so mortified by his success, and so chagrined at the contempt in which he was held by the legion, whose military lustre he had sullied, that he added to his other imprudent deeds, the most unjustifiable of all actions, that of laying violent hands on himself." Yr ydym yn barnu mai yr un maen ydyw hwn ag a ddysgrifir gan Jones o'r Derwydd,