Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ag sydd yn wir werth i'r hynafiaethydd droi ei olygon manylgraff tuag atynt, am fod eu hynodion a'u holion hynafiaethol, y rhai y buom yn ymdrin tipyn â hwy, yn profi eu bod yn orlawn o'r hyn a gyfansoddai lawer o fawredd, nid yn unig y Deheubarth, ond Cymru gynt. Gan orphwys mewn gobaith y bydd i hyn o hanes Cynwyl Gaio fod yn foddion i ddadblygu talentau, ac i ddwyn i'r golwg fechgyn eto o'r gymydogaeth, a fyddant yn sêr tanbaid yn ffurfafen ein llenyddiaeth, y rhai a fyddant yn llewyrchu hyd yn oes oesoedd, yn llewyrchu bri digwmwl ar eu gwlad a'u cenedl, ac yn rhai a fyddant yn foddlon i aberthu pob peth er lles "Cymru, Cymro, a Chymraeg,"—ïe, aberthu pob peth er dyrchafu eu cydgenedl mewn rhinwedd, moesoldeb, a chrefydd.