Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef yn fynych yn gyfryngwr rhwng pleidiau a fyddai mewn ymrafael, a llawer gwaith y llwyddodd i heddychu pleidiau gwrthwynebol. Teimlodd trigolion Llanrwst a'r gymydogaeth golled fawr ar ei ol fel gwladwr a dinesydd. Yr oedd yn rhagori o ran ei gymhwysder a'i ddefnyddioldeb yn y gymdeithas eglwysig; yr oedd ei sylwadau yn agos, a gallu ei gynghorion yn ddoeth, a'i rybuddion yn rymus. Collodd yr eglwys yn Llanrwst yuddo ef fugail cyfarwydd, brawd ffyddlon, a thad gofalus, a theimlwyd y golled am hir amser. Gorphenodd ei yrfa yn fuan, machludodd ei haul yn gynar ar y 25ain o Fawrth, 1817, yn 42 mlwydd oed. Claddwyd ef yn nghladdfa Capel Seion, yn Llanrwst. —(Geir. Byw., Aberdar.)

JONES, HUGH, a anwyd yn Maesglasau, gerllaw Dinas Mawddwy, tua'r flwyddyn 1750. Cadw Ysgol Symudol yn y cyffiniau, ar derfyn Siroedd Meirionydd a Threfaldwyn, yr oedd Hugh Jones; a byddai hefyd yn gwerthu llyfrau yn y cymydogaethau lle y byddai, dros argraffwyr a llyfrwerthwyr yn y Mwythig. Gellir yn eithaf priodol ei alw yn llenor; canys bu o'i febyd i'w fedd yn ymdrafod â llyfrau. Bwriadai ei rieni unwaith ei ddwyn i fyny yn weinidog i'r Eglwys Sefydledig, fel y dygasant ei frawd, y diweddar Barch. D. Jones; ac anfonwyd yntau i'r ysgol ragbarotoawl a hyny; ond gan yr ystyriai ef hyny yn ormod o gaethiwed ar ei dueddfryd naturiol, efe a roes yr ymgais i fyny. Cynygiwyd iddo lawer sefyllfa o elw lawer gwaith, ond gwrthodai bob amser bob cynygiad o'r fath, fel y gallai fod yn rhyddach i ymwneyd â llenyddiaeth Gymreig, ac i beidio ag ymdrafod â therfysg y byd, i'r hyn yr oedd ganddo fawr wrthwynebiad. Yr oedd yn nyddiau ei ieuenctyd yn dra hoff o brydyddu, a byddai yr holl gymydogaethau yn adseinio ei benillion. Yr oedd yn meddu cryn lawer o chwaeth i gyfaddasu ei gyfansoddiadau i chwaeth yr oes, pan oedd y dull chwareuol yn boblogaidd yn y Dywysogaeth. Yr oedd hefyd yn hyrwydd mewn cerddoriaeth eglwysig, neu Salmyddiaeth. Ond y rhan fwyaf o'i lafur, fel y gwelir, a fu cyfieithu a chyhoeddi traethodau yn Gymraeg, yn benaf traethodau duwinyddol. Ond i goroni ei holl lafur, efe a gyfieithodd waith Josephus i'r Gymraeg, a'r hwn a gyhoeddwyd. Ei waith ef ydoedd "Myfyrdodau ar dymhorau'r flwyddyn"; Gair yn ei amser"; "Gardd y