Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hughes yn bregethwr sylweddol ac ysgrythyrol, ac un a fu o fawr fendith i'w oes a'i genhedlaeth. Yr oedd hefyd yn fardd da yn yr arddull emynol, ac y mae aml emyn o'i waith mewn cryn fri yn ein canu cynulleidfaol—un o ba rai ydyw y penill tra adnabyddus hwnw, "Arglwydd, paid a gadael imi," &c., a chyfansoddodd amryw ganiadau duwiol—" Myfyrdod ar farwolaeth y Saint, a'u dedwyddwch yn y Nefoedd," yr hyn a achlysurwyd gan farwolaeth bachgen cu ac anwyl o'i eiddo. Ysgrifenodd Gofiant i'r Parch. Richard Tibbott:— "Coffadwriaeth am y Parch. Richard Tibbott, yr hwn a fu yn pregethu'r efengyl o gylch 60 mlynedd, ac a fu yn weinidog yn Llanbrynmair 35 mlynedd, &c.—Machynlleth, 1799. Yn 1790, priododd Mr. Hughes gyda Margaret, merch Ellis ac Ann Roberts, Tyn y ddol, ger y Bala. Bu iddynt ddeg o blant, tri o honynt a fu feirw yn eu babandod, ac y mae un o'r gweddill yn weinidog poblogaidd gyda'r un enwad, sef y Parch. Ellis Hughes, Penmain. Bu farw yn Rhagfyr 31, 1826.—(Gweler yn llawer helaethach yn Geir. Byw. Aberdar, a'r Geir. Byw. Lerpwl.)

HUGHES, Parch. DAVID, oedd bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Llanrwst, Sir Ddinbych. Ganwyd ef yn Ninas Mawddwy, Sir Feirionydd, yn y flwyddyn 1775. Bu ei rieni farw pan oedd ef yn ieuanc, o ganlyniad, arweiniodd rhagluniaeth ef dan ofal gŵr crefyddol, Mr. Humphrey Edwards, o'r Bala, dan olygiaeth yr hwn y dysgodd efe y gelfyddyd o alcan-ôf (tinman). Yn nheulu y gŵr da hwn y, cafodd flas ar foddion gras a darllen y Bibl; teimlodd ddylanwad y gwirionedd ar ei galon; mewn canlyniad, ymunodd â'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Bala. Wedi. dyfod yn rhydd o'i egwyddor—wasanaeth, priododd ferch ei feistr, a symudodd i Lanrwst pan yn 19eg oed, a dechreuodd bregethu ymhen tair blynedd. Derbyniwyd ef yn rheolaidd i'r gymdeithasfa yn Nghaernarfon yn y flwyddyn 1799. Yr oedd ei ddoniau gweinidogaethol yn gymeradwy iawn gan y saint, ac yntau yn barchus gan y lliaws o'i frodyr. Yr oedd llawer o hynodion yn cydgyfarfod ynddo. Yr oedd o duedd tra ymofyngar a llafurus. Casglodd ystôr o wybodaeth gyffredinol, y fath na wneir ond anfynych o dan y fath anfanteision. Ychydig ymhlith y lleygion a feddai fwy o ddefnyddiau cymdeithas nag ef. Llanwai le mawr hefyd fel gwladwr, a rhoddid ymddiried cryf yn ei farn. Dewisid.