Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lladin, y Groeg, a'r Hebraeg, yn gystal a Chymraeg. Bu farw y 15fed o Fai, 1644, yn 74 oed; a chladdwyd ef yn nghanghell Eglwys Mallwyd, lle mae coflech hardd o fynor gwyn er cof am Dr. Davies, wedi ei gosod yn yr Eglwys. Y mae mewn hen ysgriflyfr, wedi ei ysgrifenu, y rhan fwyaf o hono, gan Robert Thomas, clochydd Llanfair-Talhaiarn, tua'r flwyddyn 1764, bedair Cywydd, ac un Awdl Moliant, i'r Dr. John Davies, o Fallwyd :—1, gan Ioan Kain, 1630; 2, gan Gruffydd Phylip; 3, Hysbysiad am Gywydd Rhisiart Llwyd; 4, gan Edwart Urien ; 5, yr Awdl gan Risiart Cynwal. (Yr ydym yn meddwl fod yr Hen Lyfr yn meddiant Mr. R. I. Jones, Tremadog, cyhoeddydd y Brython.) Rhoddwn yma ddarn o Gywydd Gruffydd Phylips:

"Mam a thad, mamaeth ydych
I'r Gymraeg, wir Gymro gwych;
Perffeithiast, nithiaist yn well
Y Bibl oll i'r bobl well—well;
Yn oes dyn trefnaist yna
Y llyfrau gweddiau'n dda;
Ni phrisiaist enw hoff rasawl,
Na phoen, na chost, ffeinwych hawl;
Brau y costiaist Sion, ffynon ffydd,
Braint da i ni brint o newydd ;
Hyn oedd ynn yn ddaioni,
I reidiau'd eneidiau ni."


HUGHES, Parch. WILLIAM, o Ddinas Mawddwy, hen weinidog parchus gyda'r Annibynwyr. Ganwyd ef yn Rhoscillbach, yn mhlwyf Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, yn mis Mai, 1761. Derbyniwyd ef yn aelod yn Mhwllheli, pan ydoedd o gylch 20 oed, gan y Parch. Rees Harris; ac ymhen tua blwyddyn, anogwyd ef i ddechreu pregethu. Traddododd ei bregeth gyntaf yn capel newydd, Lleyn; ac wedi dechreu pregethu, treuliodd ychydig amser yn Llanuwchlyn, tan ofal addysgiadol y Parch. A. Tibbott, lle y cyrhaeddodd ychydig o elfenau addysg. Yn 1788, symudodd i Fangor i fod fel math o weinidog. Cyfarfu yno â. llawer o rwystrau. Yn 1789, ordeiniwyd ef mewn lle bychan o'r enw Caegwigin, ger Bangor. Bu yn llafurio yn Mangor a'r amgylchoedd, gyda diwydrwydd ac ymdrech mawr, hyd ddechreu 1797, pan y derbyniodd alwad i fyned a llafurio yn Ninas Mawddwy, a sefydlodd yno yn Mai. Parhaodd ei weinidogaeth yno am ysbaid 30 o flynyddau, yn ystod yr hwn amser y bu llwyddiant graddol a pharhaol ar yr eglwys. Ac adeiladwyd amryw gapelau. newyddion yn y cymydogaethau yn ystod ei weinidogaeth yno, a bu amryw o honynt o dan ei ofal fel gweinidog. Yr oedd Mr.