Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dlodion y plwyf tra bydd dwfr yn rhedeg, yr hon sydd o saith i ddeg punt y flwyddyn. Gadawodd y gweddill o'i diroedd i'w neiaint, sydd yn awr yn werth 300p. yn flynyddol. Yn awr rhoddwn restr mor gyflawn ag y gallwn o weithiau awdurol Dr. Davies :—Dywedir ddarfod i Dr. Davies fod yn gynorthwy mawr i Dr. Parry yn niwygiad cyfieithiad Dr. Morgan o'r Bibl, yr hwn a argraffwyd yn 1620. Tybia' rhai iddo gynorthwyo y Dr. Morgan pan oedd yntau yn cyfieithu, ond yr ydym yn tybied nas gallasai hyn fod, gan i'r argraffiad hwnw ddyfod allan yn 1588, pan nad oedd Davies ond 18 mlwydd oed. Yr ydym yn cael hefyd fod Dr. Davies yn fardd Lladinaidd. Y mae cân o'i waith yn The Map of Glanmorgan, yn anerchiad i'r awdwr, Lewis Roberts; argraffwyd yn Llundain, 1620. 1, Yn 1621 dygodd allan ei "Ramadeg o'r iaith Gymraeg yn Lladin." Argraffwyd ef yr ail waith yn Rhydychain, dan olygiad y Parch. H. Parry, ficer Llanasa, swydd Fflint, yn 1809. 2, Yn 1621 cyhoeddodd ei "Catecism." 3, Yn 1632 daeth ei brif waith allan, sef ei "Eiriadur Cymraeg a Lladin," yr hwn y bu yn llafurio wrtho am ddeugain mlynedd, a'r hwn a garia ei enwogrwydd ymlaen i'r oesau dyfodol. Talfyriad o waith mawr Dr. Thomas Williams, o Drefriw, ydyw yr ail ran o'r Geiriadur, sef y rhan Lladin a Chymraeg, ac nid llafur bychan a gafodd Dr. Davies gyda hwn. 4, Yn 1632 hefyd y daeth allan y "Llyfr y Resolution," yr hwn sydd yn dysgu i ni bawb wneuthur ein goreu," &c. Cyfieithydd oedd Dr. Davies. Ail argraffwyd ef yn 1684, ac argraffwyd ef y drydedd waith yn 1711. 5, Yn 1633 cyhoeddodd "Yr Hen Lyfr Plygain a'r Gwir Gatecism;" ail argraffwyd ef yn 1683. 6, Yn 1664 daeth allan yr "Articlau. Y namyn un deugain Articlau Crefydd. O gyfieithiad J. D. SS. T. P.," 4 plyg. Argraffwyd ef y drydedd waith yn 1710; ac ail argraffwyd ef rywbryd rhwng 1664 a 1710. Cyhoeddwyd ef hefyd ynglŷn â'r Llyfr Gweddi Cyffredin, yn 1710. 7, Yn 1710 hefyd y cyhoeddwyd y "Flores Poetarum Britannicorum: sef Blodeuog waith y Prydyddion Brytanaidd. O gasgliad J. D., SS.Th.D." "Yr oedd amser yn ol bregetbau o'i eiddo mewn llawysgrifen, yn llyfrfa Ysgol Ystrad Meurig, sir Aberteifi." "Y mae rhai ysgriflyfrau o farddoniaeth Gymreig yn llawysgrifen y Dr. Davies ar gadw yn y Gywreinfa Brydeinig yn Llundain." Yr oedd yn ysgolhaig mawr yn y