Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gallasai fod yno ysgol enwog cyn i'r Deon sefydlu yr un bresenol. A dywed yr awdwr parchus yn mhellach na bu yr Esgob Parry erioed yn athraw yn Ysgol Rhuthyn, &c.; ac yr ydym braidd yn syrthio at Mr. Evans, oblegid nis gwyddom am neb mwy cymwys i farnu nag efe. Hefyd, y mae Dr. Davies ei hun, yn ei ragymadrodd i'w Eiriadur Cymraeg a Lladin, yn coffâu yn gynes enw Dr. Morgan fel ei hen athraw—" Enw yr hwn sydd hyfryd genyf ei draethu â'm genau; canys wrth draed y Gamaliel hwn y cefais fy addysgu a'm dwyn i fyny." Hynod na buasai yn crybwyll enw Dr. Parry hefyd fel ei hen athraw, os oedd wedi bod yn gyfryw iddo. Bu Dr. Davies yn gweinidogaethu am bymtheng mlynedd ar ol bod yn ngholeg yr Iesu, cyn myned i goleg Lincoln. Graddiwyd ef yn y cyntaf yn B.C., ac yn yr ail yn D.D., neu S.T.P., fel yr arferai ef eu defnyddio ar ol ei enw yn ei weithiau. Cafodd gan y Llywodraeth bersonoliaeth Mallwyd; a phan ddyrchafwyd Dr. Parry yn esgob cafodd ganoniaeth yn Llanelwy, a chyfnewidiodd hon am brebendariaeth Llanefydd, a phersonoliaeth Llan-y-Mawddwy, hefyd Darowain, yr hon a gyfnewidiodd am Lanfor, ger y Bala, a thybia rhai fod Garthbeibio ganddo hefyd. Dywed rhai fod Mallwyd, Llan-y-Mawddwy, Llanfor, a Llanefydd, ganddo ar yr un pryd. Ond fel hyn y dywed y Parch. D. S. Evans eto am ei berthynas â Llannefydd :"Y mae gwahaniaeth rhwng prependari mewn eglwys gadeiriol a pherson neu weinidog Eglwys plwyf. Nid oedd y berthynas leiaf rhwng y Dr. Davies â phlwyf, bywoliaeth, neu bersonoliaeth Llannefydd, er ei fod yn derbyn y corfydd a elwir Corfydd Llannefydd yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Tâl am weinyddu mewn Eglwys Gadeiriol yw corfudd neu brebend, ac nid am gyflawni gwasanaeth mewn Eglwys blwyfol." Priododd Dr. Davies, Sian, merch Rhys (John medd rhai) Wynn, Ysw., o'r Llwyn, yr hon oedd chwaer i wraig yr Esgob Parry. Ni chawsant blant, ac ail briododd hithau y curad, sef y Parch. Edward Wynn, A.C., mab i Edward Wynn, Ysw., o Fodewryd, Môn. Cafodd fywoliaeth Llan-y-Mawddwy ar farwolaeth Dr. Davies (Cambrian Register, 1795, t.d. 158). Dywedir i'r Dr. adeiladu tair o bontydd ceryg cedyrn yn y gymydogaeth, pa rai sydd yno eto i'w gweled; ail adeiladodd ganghell a chlochdy yr Eglwys, a chwbl adeiladodd y persondy sydd yno yn aros eto. Gadawodd yn ei ewyllys ardreth Dôl Dyfi i