Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yn ddyn plaen, mynyddig, o athrylith hynod; eithr yr oedd yn rhaid ei glywed, a'i glywed lawer gwaith, a'i glywed yn ei hwyliau, er ffurfio meddylddrych priodol am dano."—(Gwel ysgrif ragorol ar "Dafydd Davis, Cywarch," yn y Traethodydd am y flwyddyn 1869, gan y Parch. F. Jones, Aberdyfi.)

DAVIES, EDWARD, gweinidog yr Annibynwyr, yn Smyrna, ger Croesoswallt, ydoedd frodor o ardal Dinas Mawddwy. Ganwyd ef mewn lle a elwir Galltafolog. Cafodd alwad gan yr eglwys oedd yn Cutiau, ger Abermaw. Aeth yno yn mis Mai, 1818, a chafodd ei urddo yr haf hwnw i gyflawn waith y weinidogaeth yn y lle. Efe a fu yn llafurus a llwyddianus am y pedair blynedd y bu yn llafurio yn y gymydogaeth hono. Ymadawodd oddiyno i Smyrna, yn y flwyddyn 1822, a'i goron yn ddisglaer ar ei ben. lle terfynodd ei yrfa yn orfoleddus.

DAVIES, JOHN, D.D. Y mae yn wir nad oedd Dr. Davies yn enedigol o swydd Feirion, eto pe y galwem ef yn Dr. Davies, Llanferres, swydd Ddinbych, yr ydym yn credu na wyddai neb yn y byd pwy a fyddai—byddai yn rhaid dyweyd Dr. Davies o Fallwyd, yna byddai i bawb wybod. Ganwyd ef yn Llanferres, ger y Wyddgrug, swydd Ddinbych, tua'r flwyddyn 1570. Mab ydoedd i Dafydd ab Sion ab Rhys, gwehydd, medd rhai, dilladydd, medd eraill. ́ Ond pa un bynag am hyny, ymddengys ei fod mewn sefyllfa gysurus, ac o waedoliaeth a theulu mwyaf pendefigaidd yn y wlad. Yr oedd ei dad yn hanu o Marchudd ab Cynan, a'i fam o Ednyfed Fychan; ac yn un o'i lythyrau, dyddiedig Awst 26ain, 1623, geilw Robert Fychan, o'r Hengwrt, yn gefnder (Yorke's Royal Tribes, a'r Cambrian Register, cyf. i., t.d. 158, a cyf. ii., t.d. 470). Dywedir yn gyffredin yn yr erthyglau sydd wedi eu hysgrifenu ar Dr. Davies iddo gael ei addysg foreuol yn Ysgol Ramadegol Rhuthyn, yr hon, meddir, a sefydlasid gan y Dr. Gabriel Goodman, ac mai un o'r athrawon oedd Dr. Richard Parry, yr hwn a fu wedi hyny yn esgob yn Llanelwy: a dywedir hyn hyd yn nod gan awdwr yr erthygl alluog sydd yn y Gwyddionadur ar Dr. Davies. Ond dywed y Parch. D. S. Evans na sefydlwyd Ysgol Ramadegol Rhuthyn gan y Deon Goodman cyn y flwyddyn 1595, a bod y Dr. wedi dyfod o Rydychain er's dwy flynedd cyn hyn, ac wedi bod yn Rhydychain bedair blynedd. Felly nas gallasai Davies dderbyn ei addysg yn ysgol fawr Rhuthyn, ond y