Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Medi, 1807, am 30p. yn y flwyddyn. Bu wedi hyny yn gweinidogaethu yn Llan-y-Mawddwy, Meirion. Cyhoeddodd draethawd ar "Salmyddiaeth," yn 1807; ar "Heddwch a Chynhauaf drwg," yn 1818; ar "Y fantais o Addoliad Cyhoeddus," yn 1819; a chyhoeddwyd 21 o'i Bregethau, ynghyda Chofiant o hono, yn 1823.—(G. Lleyn M.S.S.; Geir. Byw. Lerpwl.)

DAVIES, DAVID, Cowarch, gerllaw Dinas Mawddwy. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1794, mewn ffarmdy o'r enw Nant hir, ar y ffordd rhwng Aberangell ac Aberllyfeni. Yr oedd ei dad yn aelod o eglwys y Parch. W. Hughes, yn y Ddinas; a'i fam yn aelod o eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Abercowarch. Cafodd y fraint o gael rhieni crefyddol iawn, felly cafodd yntau ddygiad i fyny crefyddol. Symudodd ei rieni o'r Nant hir i'r Ty mawr Cwmglanmynach, pan oedd ef yn dair oed; ac oddiyno i Ty'n y berth, Cowarch, ymhen dwy flynedd. Bu am ychydig fisoedd yn yr ysgol gyda Lewis Williams, Llanfachraith, pan oedd yn bur ieuanc, rywbryd rhwng 1806 a 1812. Bu L. Williams yn cadw "Ysgol Rad Cylchynol," dan arolygiaeth Charles o'r Bala, am dri mis yn Abercowarch, a'r tri mis dilynol yn Mallwyd. Dyna'r cwbl o addysg ddyddiol a gafodd. Er hyny meddai wybodaeth gyffredinol eang iawn, a dywedir ei fod yn hynod o graff ei sylw. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1819, pan oedd tua 25 oed. Pan yn 28ain oed, priododd ferch i Job Miles. Symudodd o Ty'n y berth i'r Palasau, ger Llan-y-Mawddwy, yn 1845. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, yn Nghymdeithasfa Machynlleth, yn 1848. Symudodd o'r Palasau i Nantyronog, oddiyno drachefn i Benygraig, gerllaw Mallwyd, lle y trigai hyd ei farwolaeth. Fel y canlyn y dywed y Parch. E. Williams, gweinidog yr Annibynwyr, Dinas Mawddwy, am dano:—" Ni chlywsom erioed gan neb y fath ffrydlif o hyawdledd byrfyfyr effeithiol ag a glywsom ganddo ef ar rai adegau yn yr adfywiad diweddaf. Ymdröai ynghanol y cyflawnder mwyaf amrywiol o sylwadau tarawgar, gwreiddiol, naturiol, ac i bwrpas. Lluchiai berlau teg fel ceryg, ac nid oedd dihysbyddu yn ymddangos arnynt. Yr oedd y meddwl fel yn gweled ymhob cyfeiriad, a'r tafod fel yn reddfol yn cipio pob meddwl i fyny, ac yn ei roi allan gyda'r hwylusdod a'r cywirdeb mwyaf. Dywedai y peth a fynai, ac fel y mynai, a phawb yn hoeliedig wrth ei wefusau, yn chwerthin ac yn crio bob yn ail.