Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DOS. IV.

ENWOGION MAWDDWY.

(HEN A DIWEDDAR.)

Y mae Cwmwd neu Arglwyddiaeth Mawddwy yn gorwedd i'r dwyrain, rhwng Tal-y-bont, a Swydd Drefaldwyn, a chynwys ddau blwyf—Mallwyd a Llan-y-Mawddwy. Mallwyd a gynwys y Trefydd Degwm canlynol:—Gartheiniog, Nant-y-Mynach, Maes Glasau, Camlan, Gweinion, Mallwyd, Dugoed, Dinas Mawddwy, (tref farchnad fechan), a Ceryst. Yn Llan-y-Mawddwy y mae y rhai canlynol:—Cwm Cewydd, Cowarch, Llanerch Fyda, a Phenant; yn yr hon y tardd ffrwd afon Dyfi, ac yna llifa yn ddeheuol tua Swydd Drefaldwyn. Safai Castell y Ddinas gynt, gerllaw Pont Ffinant, islaw Dinas Mawddwy; ac y mae lle y castell hwn eto ar gael. Y mae hefyd ar gopa Moel Benddin, uwchlaw Aber Cowarch, le a elwir y "Castellau,"—crug o geryg wedi eu taflu ar eu gilydd yn aflerw ydynt. "Ymddengys fod yma ryw bryd amddiffynfa wedi cael ei gwneyd; a phan yr ystyriom ei sefyllfa fanteisiol, nid ydyw yn beth rhyfedd yn y byd i'r hen genedl filwrol osod gwylfa ar y fath le, a'i chadarnhau hefyd rhag ymosodiadau rhuthrol eu gelynion." Y mae lliaws mawr o olion henafol a hanesion dyddorol yn perthyn i'r Cwmwd hwn; ond gan nad yw yn perthyn i'n testyn fyned y ffordd hon, gadawn ar hyn. ―(Gweler " Arglwyddiaeth Mawddwy," gan y diweddar ddoniol Glasynys; Brython, Cyf. V., 435.)

DAVIES, Parch. DAVID, a anwyd yn Ty Uchaf, Mallwyd, Medi 13, 1778. Cafodd elfenau ei ddysg gan y Parch. Thomas Morgan, offeiriad Mallwyd, a thrwy ei ddiwydrwydd personol wedi gadael yr ysgol hono, daeth yn ysgolhaig eithaf digonol i fyned i ysgol Berriew, ac yna cafodd y ffafr o fyned i ysgol fawr yr Amwythig. Yno cyrhaeddodd ysgoloriaethau a'i cododd i Gaergrawnt yn 1798, yn ugain oed; lle y graddiwyd ef yn B.A. Ordeiniwyd ef i guradiaeth Llandyssil, Maldwyn, gan Dr. Bagot,