Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mlodeugerdd Cymru a'r Dewisol Ganiadau. Nid rhyw lawer o gyfansoddiadau gwreiddiol a gyhoeddwyd ganddo; ond gwasanaethodd ei oes a'i genedl trwy gyfieithu i Gymraeg lân ddiledryw lyfrau gwir werthfawr o ieithoedd eraill. A ganlyn sydd restr o'i weithiau llenorol :—1, "Bucheddau'r Apostolion a'r Efengylwyr, a gasglwyd allan o'r Ysgrythyr Lân, ac o ysgrifeniadau'r athrawon goreu," 1704. 2, "Gwirionedd y Grefydd Gristionogol," cyfieithiad o waith Hugo Grotius, 1716. 3, "Holl ddyledswydd dyn," o gyfieithiad Edward Samuel, 1718. 4, "Prif ddyledswyddau Cristion," &c., cyfieithiad, 1723. 5, "Athrawiaeth yr Eglwys," cyfieithiad, 1731. 6, "Pregeth ynghylch gofalon bydol," 1720. 7, "Pregeth ar adgyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist." 1766.—(Rhagymadrodd i argraffiad 1854 o Wirionedd y Grefydd Gristionogol, gan Hirlas.

WILLIAMS, Parch. ROBERT, A.M., oedd beriglor Llangar, yn Edeyrnion. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1748. Yr oedd yn awyddus iawn dros iaith ei wlad, ac yn medru ei hysgrifenu yn rhagorol o gywir, a byddai yn arfer barddoni yn bur dda. Testyn eisteddfod a gynhaliwyd yn Llangollen ar Ionawr 5ed, 1826, oedd marwnad i'r gŵr hwn. Gweinyddodd 55 mlynedd yn esgobaeth Llanelwy. Bu farw Hydref 6ed, 1825, yn 77 mlwydd oed.

WYNNE, Parch. ROBERT, Gwyddelwern, oedd offeiriad as bardd o gryn fri yn ei oes. Y mae ar gael o'i waith, "Marwnad ar ol y Frenhines Anne," a "Haf-gân yn amser Heddwch," yn y Blodeugerdd, tudal. 296—7. Cafodd ficeriaeth Gwyddelwern yn 1702 gan yr Esgob Jones. Pregethwyd pregeth angladdol iddo ar yr 2il o Fai, 1720, yn Eglwys Llangower, gan y Parch. Edward Samuel.