Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ROBERTS, Parch. ROBERT, oedd weinidog y Wesleyaid. Ganwyd ef mewn ffermdŷ o'r enw Bonwm, ar lan afon Dyfrdwy, ynghylch milldir a haner o dref Corwen, yn Edeyrnion, yn 1783. Yn y flwyddyn 1802 dechreuodd bregethu, ac aeth i'r weinidogaeth y flwyddyn ganlynol. Yn 1809 bu yn golygu yr Eurgrawn. "Bu yn dra diwyd yn ei holl waith. Yr oedd yn esboniwr teg a chroew o'r testyn a gymerai, a thrwy hyny efe a sicrhai amrywiaeth naturiol. Pe yr estynasid ei ddyddiau tybid y buasai yn un o'r pregethwyr mwyaf defnyddiol. Yr oedd yn araf, sobr, a rheolaidd; yn nerthol mewn iaith, yn wreiddiol yn ei faterion, yn naturiol ac yn felus iawn. Buasai ei bregethau yn rhy hir oni bai eu bod yn dda." Bu farw o'r darfodedigaeth, yn Nghaernarfon, Ionawr 16, 1818, yn 35. mlwydd oed, a'r 15 o'i weinidogaeth.

ROBERTS, Parch. ROBERT, gweinidog y Wesleyaid, a anwyd yn Hafotty, plwyf Gwyddelwern, yn Edeyrnion, tua'r flwyddyn 1809. Yn 1835 aeth i'r weinidogaeth, a bu farw yny flwyddyn ddilynol. Yr oedd ganddo feddwl grymus a threiddgar, cof da, a gwnai bob peth gyda pharodrwydd meddwl. Bu yn llafurus iawn mewn darllen a chasglu gwybodaeth; esiteddai i fyfyrio drwy gydol y nos, yr hyn, yn ddiameu, a effeithiodd yn dra niweidiol ar ei iechyd.

SAMUEL, Parch. EDWARD, offeiriad Bettws Gwerfil Goch, yn Edyrnion. Ganwyd ef mewn lle o'r enw Cwtydefaid, yn mhlwyf Penmorfa, yn swydd Gaernarfon, yn 1674. Dywedir mai mab i wr tlawd ydoedd; a phriodolir ei ddygiad i fyny i'r offeiriadaeth i nawdd a chefnogaeth y Dr. Humphreys, o'r Penrhyndeudraeth, sef esgob Bangor, yr un gwr ag a anogodd awdwr y Bardd Cwsg i gymeryd urddau Eglwysig. Cafodd bersonoliaeth Bettws Gwerfil Goch yn 1702, a bu yno am bedair-blyneddar-ddeg. Yn 1721 symudodd i Langar, yn yr un gymydogaeth, lle yr arhosodd hyd ddydd ei farwolaeth, yr hyn a ddigwyddodd Ebrill 8, 1748, ac efe yn 75 oed. Claddwyd ef yn mynwent Llangar, wrth ben dwyreiniol yr Eglwys, ac y mae ei gareg fedd yn aros yno hyd heddyw. Ysgrifenodd Edward Samuel lawer yn ei ddydd, a rhesir ef yn gyfiawn ymhlith ysgrifenwyr goreu y ddeunawfed ganrif. Yr oedd hefyd yn fardd o gryn gyfrifoldeb; a gellir gweled amryw engreifftiau o'i gynyrchion prydyddol yn