Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwych. Dywed Glasynys ei fod yn Llywydd i'r Gwyneddigion, yn y flwyddyn 1788; ei fod yn wladgarwr gwresog, ac iddo barhau yn aelod o'r gymdeithas uchod hyd ei fedd.

MAWDDWY, SION, bardd o fri, a flodeuai o 1560 i 1590. Yr oedd yn un o'r beirdd gwyddfodol yn ngorsedd Morganwg yn y flwyddyn 1580; ac y mae llythyr dyddorol o'i eiddo, dyddiedig yn y flwyddyn hono, wedi ei argraffu yn y Greal, 207. Y mae rhai o'i gynyrchion ar gael mewn llawysgrifau.

MAWDDWY, Syr LEWIS, duwinydd a phrydydd, a flodeuai rhwng 1580 a 1620, yn ol y Cam. Biog., ond Moses Williams, yn ei Index Poemaiam, a'i gesyd yn 1460. Mae rhai o'i gerddi ar gael mewn llawysgrifau.

MAWDDWY, MORUS, neu "Morus ab Llewelyn," a elwir hefyd Morus Meudwy, ydoedd fardd yn byw rhwng 1540 a 1570. Y mae rhai o'i ganiadau ar gael.

WILLIAMS, Parch. JOHN, (AB ITHEL), a anwyd yn y flwyddyn 1811. Methasom gael gwybod ymha le y ganwyd ef, ei hanes boreuol, a pha bryd yr urddwyd ef, &c. Efe a fu am flynyddau meithion yn gweinidogaethu yn Llanymawddwy, mewn modd poblogaidd, cymeradwy, a defnyddiol. Ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth yr oedd wedi symud o Lanymawddwy i Lanenddwyn, yn Ardudwy, ac ar y 27ain o Awst, 1862, efe a aeth i ffordd yr holl ddaear, a hyny er galar mawr i holl gefnogwyr a hoffwyr llenyddiaeth Gymreig. Dygwyd ei gorff allan o bersondy Llanenddwyn, a chladdwyd ef yn mynwent Llanddwywe Cymerwyd y gwladgarol, y dysgedig, yr athrylithgar, a'r llafurus Ab Ithel, oddiar ei gyfeillion yn nghanol ei ddyddiau a'i ddefnyddioldeb, ac yn yni a grym bywyd—nid oedd ond un-ar-ddeg-a-deugain oed. Yr oedd yn adgyfodwr y tô presenol o Eisteddfodau yn Nghymru. I lenyddiaeth Gymreig, bu ei lafur yn annhraethol werthfawr; er cymaint a wnaeth yr oedd yn parhau o hyd yn llafurus gyda'r gangen hon, ac yn ddiddadl yr oedd y dyfodol yn doreithiog o flaen llygaid ei feddwl, a gwaith mewn bwriad ganddo i'w gyflawni, cyn cyraedd tir machlud haul.

WILLIAMS, Parch. ROWLAND, periglor Ysgeifiog, a chanon yn Llanelwy. Ganwyd ef yn Mallwyd, yn arglwyddiaeth Mawddwy, yn Mawrth, 1772, a derbyniodd ei ddysgeidiaeth yn Ysgol Ramadegol Rhuthyn. Symudodd oddiyno i Goleg yr