Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Iesu, Rhydychain, lle yr enillodd ysgoloriaeth, ac y derbyniodd y radd o B.A., yn Ionawr, 1802; ac M.A., yn Ionawr, 1805. Ar ol ei ymadawiad â'r Brifysgol, cawn ef yn ail athraw Ysgol Ramadegol Bangor, ac yn gwasanaethu Eglwys Llandegai. Yr oedd yn rhaid fod Mr. W. wedi cyraedd gradd uchel mewn dysgeidiaeth cyn y cawsai ei ddewis i'r swydd a lanwai yn Ysgol Bangor; fel prawf ychwanegol o hyn, penodwyd ef yn gaplan i'r Dr. Cleaver, Esgob Bangor ar y pryd. Ar symudiad yr Esgob i Lanelwy, aeth a Mr. W. gydag ef, a rhoddodd iddo berigloriaeth Cilcain, Swydd Fflint. Yn 1809, rhoddwyd iddo ganoniaeth yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. O Cilcain, symudwyd ef i Helygen, yn yr un sir; ac oddiyno dyrchafwyd ef gan Esgob Luxmoore i berigloriaeth Meifod, lle y treuliodd 17 o flynyddoedd. Yn 1835, penodwyd ef gan yr Esgob Carey, yn beriglor Ysceifiog, ac yno y bu farw, Rhagfyr 28, 1853, ac yno y claddwyd ef. Yr oedd Mr. W. yn ŵr mawr mewn amryw ystyriaethau. Yr oedd ei adnabyddiaeth o'r Groeg a'r Lladin yn gywir braidd i berffeithrwydd. Anfynych iawn y cyfarfyddid â neb ag yr oedd ei wybodaeth gyffredinol yn fwy helaeth; ymddiddanai yn ddysgedig ar unrhyw destyn gyda'r parodrwydd mwyaf; ac fel duwinydd hefyd safai yn dra uchel. Meddyliem na chyfeiliornem wrth ddywedyd ei fod yn un o brif Gymreigwyr ei oes. Ysgrifenodd lawer i'r Gwyliedydd, a'r Cambro Briton, &c. Ysgrifenodd hanes bywyd Peter Roberts, yr hynafiaethydd; a Chofiant i'r Esgob Griffith. Fel offeiriad, yr oedd yn fugail i'w braidd mewn gwirionedd; yn eu harwain mewn pethau ysbrydol, ac yn eu cynghori a'u cynorthwyo mewn pethau tymhorol—yn gydymaith i'r cyfoethog, ac yn gyfaill i'r tlawd. Priododd yn ieuanc gyda Jane Wynne, merch y Parch. H. Wynne Jones, o Dreiorwerth, Môn; bu iddynt amryw blant, a'r ail fab oedd y

WILLIAMS, Parch. ROWLAND, D.D., un o'r rhai enwocaf a fagodd Cymru er's llawer oes. Daeth yn hyddysg yn yr ieithoedd clasurol pan yn ieuanc iawn. Pan yn 10 oed, aeth i Ysgol Eton; ac aeth oddiyno i Gaergrawnt. Wedi gorphen ei amser yn y Brifysgol, etholwyd ef yn Gymrawd o'i Goleg, ac yno y bu am dymor yn addysgu eraill gyda deheurwydd a llwyddiant anarferol Yr oedd Dr. Williams hefyd yn enwog iawn fel awdwr. Y mae ei "Gristionogaeth a Hindwaeth," yn profi yn eglur fod ynddo