Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allu i dreiddio a myned yn ddwfn. Dygodd allan gyfrolau o farddoniaeth dan yr enw Lays of the Cymbric Lyre." Ond nid fel bardd yr oedd y Dr. yn rhagori, ond fel athronydd. Y mae ei erthyglau yn y Quarterly Review, &c., yn dangos gallu anghyffredin. Dygwyd ef i sylw arbenig yn ymddangosiad yr "Essays and Reviews," a'i gyfrol pregethau a elwir yn "Rational Godliness." Ni ddywedwn ddim am iachusrwydd yr ymborth sydd yn y cyfrolau hyn; ond dywedwn fod ynddynt amlygrwydd o ysgolheigdod a gallu na chyfarfyddwn ond pur anfynych a'r cyffelyb. Bu am ysbaid yn athraw yn Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr, a dywedir na bu un athraw yn un man erioed a hoffid yn fwy na Dr. Rowland Williams gan ei ysgolheigion; ac y medrai ef eu trin fel plant, a'u dysgu fel tad. Cyhoeddodd liaws o lyfrau ar wahanol bynciau yn ddiweddar, a'r peth olaf a ddygodd allan o'r wasg oedd cân o'i eiddo ar "Owain Glyndwr." Yr oedd yn Gymro pur, er na fedrai siarad y Gymraeg yn rhugl. Yr oedd ei enaid yn llawn o dân gwladgarol, a'i ysbryd yn frwd dros hen wlad ei dadau. Bu farw Ionawr 13, 1870.