Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DOS. V.

ENWOGION MEIRIONYDD.

(HEN A DIWEDDAR)

Y mae Cantref Meirionydd, yn cynwys dau Gwmwd, Estymaner, a Thalybont. Cynwys Arglwyddiaeth Estym bedwar plwyf, Pennal, Towyn, Llanfihangel-y-Pennant, a Thalyllyn. Cwmwd neu Arglwyddiaeth Talybont a wahenir oddiwrth Estymaner gan yr afon Dysyni, ac y mae ynddo bedwar o blwyfydd: Llanegryn, ́ Llangelynin, Dolgellau, a Llanfachreth. Yn mhlwyf Pennal gerllaw yr Eglwys, y mae llanerch a elwir Cefn Caer, lle y cafwyd yn ddiweddar ddarn o arian, ac arno enw Domitian, yr ymerawdwr, yr hyn sydd yn cadarnhau enw henafol y fan, Y Maes ym Mhennal. Yn gyfagos i'r fan yma yr ymladdwy'd brwydr Pennal, yn nyddiau Iorwerth y Pedwerydd, rhwng gwŷr Gwilym, Iarll Penfro, â Thomas Gruffydd ab Nicholas, o blaid tŷ Caerwerydd, pryd yr enillodd y dywededig Thomas y fuddugoliaeth. Yn mhlwyf Llanfihangel, ar lan yr afon fechan Llaethnant, yr oedd castelly Biri. Tybir mai Iarll Caerlleon, pan oedd Gruffydd ab Cynan, Tywysog Gwynedd, yn garcharor ganddo, a adeiladodd y castell hwn; canys ni gawn yn hanes bywyd Gruffydd ab Cynan i'r Iarll adeiladu llawer o gestyll yn Ngogledd Cymru, ac un yn swydd Feirion; ac os nad hwn yw hwnw, nis gwyddom pa un' ydyw ef. Thomas Walsingham a ddywed, ar ol marwolaeth Leoline (1284) ddarfod i Iarll Penfro gymeryd y castell oddiar y tywysog dywededig. Yn mhlwyf Talyllyn y mae Llyneingul yr hwn sydd filltir o hyd, oddiwrth yr hwn y cafodd y plwyf ei enw, o'r hwn hefyd y mae afon Dysyni yn cymeryd ei rhedfa i'r môr. Yn mhlwyf Celynin y canfyddir adfeiliau Caer Bradwen. Y Bradwen hwn oedd dad i Ednywain ab Bradwen, yr hwn oedd un o bymtheg llwyth Gwynedd. Yn nghantref Meirionydd y mae y mynydd ardderchog Cadair Idris yn sefyll, yr hwn na rydd y flaenoriaeth i un mynydd yn Nghymru oddieithr y Wyddfa.