Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn mhlwyf Llanfachreth, ar lan afon Mawddach, gyferbyn a Llanelltud, yn Ardudwy, y saif mynachlog Cymmer, a seiliwyd gan Meredith a Gruffydd, arglwyddi Meirionydd, a meibion Cynan ab Owen Gwynedd, tywysog Gwynedd, yn 1198. Ar fryn bychan, gerllaw yr hen fynachlog hon, a elwir Pentref, safai unwaith Gastell Cymmer, yn swydd Feirionydd, yr hwn a ddymchwelwyd gan feibion Cadwgan ap Bleddyn, yn 1113, oblegid rhyw anghydfod rhyngddynt hwy â meibion Uchdryd ab Edwin, y rhai a'u hadeiladodd.

ANWYL, Parch. EDWARD, oedd fab i Owen ac Ann Anwyl, o'r Ty'nllan, Llanegryn, yn swydd Feirion, lle y ganwyd ef Ebrill, 1786. Ymunodd â'r Wesleyaid yn 1804. Daeth yn fuan yn ddyn o sylw, ac anogwyd ef i arfer ei ddawn yn gyhoeddus yn 1808. Bu yn cadw ysgol Gymreig yn Penrhyndeudraeth am ychydig fisoedd, a galwyd ef i'r weinidogaeth amdeithiol yn Awst y flwyddyn hono. Maes cyntaf ei lafur oedd Môn. Yn 1814 priododd âg un Miss Matthews, o Drelai, Morganwg; a bu iddynt un-ar-ddeg o blant. Yr oedd o gyfansoddiad cryf, esgyrniog, di-gnawd, ac yn gerddwr anghyffredin. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, a chanddo gof cryf, felly yn hanesydd goreu y Dywysogaeth. Fel duwinydd yr oedd yn feddyliwr dwfn a goleu. Bu yn pregethu yn rheolaidd hyd y flwyddyn 1854, a bu yn gadeirydd talaeth Gwynedd am rai o'r blynyddoedd diweddaf. Bu wedi hyny yn cyfaneddu yn Rhuthyn a Threffynon, a bu farw yn y lle olaf, mewn llawn fwynhad o'r gobaith gwynfydedig, Ionawr 23, 1857, yn 71 oed. Nid ydym yn gwybod ddarfod iddo gyhoeddi dim o'i eiddo drwy y wasg, ond ambell i erthygl yn awr ac yn y man yn yr Eurgrawn Wesleyaidd.—(Eurgrawn Wesleyaidd, 1858, t.d. 101, 109, 146.)

BLEDDYN AB CYNFYN, o'r Nannau, a gafodd Dywysogaeth Gwynedd ar farwolaeth ei haner brawd, Gruffydd ab Llewelyn, tua'r flwyddyn 1066; a Rhiwallawn ei frawd yr un pryd a gafodd Dywysogaeth Powys. Ond ar gwymp yr olaf mewn brwydr daeth Powys hefyd i feddiant Bleddyn :

"Bleddyn ab Cynfyn bob cwys
Ei hun biodd hen Bowys."

Yr oedd yn feddianol ar lawer o rinweddau; yn dilyn cyfiawnder, ac uniondeb; ac yn hael a chymwynasgar. Cynhaliai gyfreith-