Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iau y wlad, ac adgyweiriai ddefodau y beirdd. "O. C. 1073 y daeth Rhys ab Owain ab Edwin, o Fanaw; a chan gael ei gynorthwyo gan liaws o bendefigion Ystrad Tywi a Brycheiniog, efe a barodd lofruddiad y Tywysog Bleddyn ab Cynfyn, trwy gweryl cyfrinachol yn Nghastell Powys." (Brut.; Geir. Byw., Lerpwl.) Yr ydym yn cael mai prif aneddle Bleddyn ab Cynfyn, yn gystal a'i fab Cadwgan, a'i fab, a'i ŵyr, a'i orwyr yn olynol, oedd Nannau, ger Dolgellau; ac y mae lliaws o deuluoedd ein gwlad yn dilyn eu hachau iddo, megis y Fychaniaid Corsygedol, Fychaniaid o'r Nannau, a'r Hengwrt, Rug yn bresenol, a'r Llwydiaid Cwmbychan, Ardudwy, &c., hefyd Fychaniaid Caergai, &c.

CADWGAN, ail fab Bleddyn ab Cynfyn, tywysog Powys, yr hwn a olynodd ei dad ar orsedd y dywysogaeth hono yn y flwyddyn 1073. Un o brif aneddau Cadwgan oedd gerllaw, Dolgellau, am hyny âchwyr a'i galwent "Cadwgan o Nannau." Yn 1092, efe a orchfygodd y Normaniaid yn Neheubarth Cymru; a thrachefn, mewn brwydr, arall, trechodd fyddin fawr o'r un gelynion, y rhai a gadgyrchasant i Ogledd Cymru. Gwedi sicrhau ei feddiant yn Ngheredigion efe a wnaeth yn Nadolig y flwyddyn 1107 wledd ardderchog yn Nghastell Aberteifi, ac a wahoddodd dywysogion, penaethiaid, a goreugwyr o bob parth o Gymru, ynghyd ag enwogion o feirdd a cherddorion tafod a thant, yn ol rheolau a defodau llys Arthur, y rhai, ar eu hymadawiad, a wobrwywyd yn anrhydeddus. Ond bu y wledd rwysgfawr hon yn achlysur i ddwyn ar Cadwgan drychineb dwys, nid llawer llai na dinystr. Ymhlith y dyledogion ŵyr ar a wahoddasid yno yr oedd Owain ab Cadwgan, yr hwn a gyrchwyd yno o Bowys; ac ymhlith y gwahoddedigion hefyd yr oedd Nest, merch Rhys ab Tewdwr, a gwraig Gerallt Windsor, ceidwad Castell Penfro. Swynoglwyd Owain gan lendid Nest, ac efe a'i canlynodd hi i Gastell Penfro yr hwn a gyrchwyd, a oresgynwyd, ac a losgwyd ganddo; gorfu ar Gerallt ffoi am ei einioes yn nhrymder y nos, a dygodd yntau Nest i Bowys, megis gynt y dygwyd Ellen,

"Yr hon a beris yr ha
A thris rhwng Groeg a Throia."

o dir ei gwlad i ddinas anorfod Llion. Dygodd y weithred ysgeler hon y tad diniwed i ddyryswch a thrallod, a gorfu arno ef, ynghyda'i fab camweddog, ffoi i Iwerddon rhag byddin a arweinid yn ei erbyn gan ei ddau nai, Ithel a Madog, meibion Rhiryd ab