Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bleddyn, y rhai a oresgynasant ei diriogaethau ar anogaeth Harri, brenin Lloegr. Pa fodd bynag, ni bu hir encil Cadwgan, canys dychwelodd yn y flwyddyn ganlynol; ac wedi profi o hono ei ddiniweidrwydd caniataodd Harri iddo adfeddianu y rhan fwyaf oi diriogaethau yn Mhowys, ond iddo dalu cant o bunau o iawn, ac na chaniatai i'w fab Owain ddychwelyd. Daliodd ei dir yn erbyn holl ymosodiadau ei neiaint, hyd y flwyddyn 1110, pan y rhuthrwyd yn ddisymwth arno gan Madog, yn y Trallwng, ac y lladdwyd ef ganddo cyn gallu o hono dynu ei gleddyf i'w amddiffyn ei hun.—(Brut. y Tywysogion; Wms. Em. Welsh; a Geir. Byw. Liver. ac Aber.)

CADWALADR, Syr RHYS, neu "Rhys y Gadair," o'r College' yn nhref Conwy, oedd yn ei flodau yn 1680, fel mae yr englynion a gânt i'r "Seren Losgyrnog Fawr," a ymddangosodd yn y flwyddyn hono yn profi. Gan fod Cadwaladr yn cael ei ysgrifenu weithiau yn "Cadr," mae rhai wedi ei alw Rhys y Gadair," gan dybied ei fod yn enedigol o gyffiniau Cader Idris. Dichon mai Meirionwr ydoedd. Y cwbl a wyddom am Syr Rhys ydyw ei fod yn wr eglwysig, yn byw yn y College yn nhref Conwy, ar ymddangosiad y seren a nodwyd; a'i fod yn fardd celfyddgar, awenyddol, a dysgedig, mal y prawf ei gyfieithiad o Horace, Llyfr I. Cerdd 22.

I ddyn a'i fuchedd yn dda,
Trwy fywyd, nid rhaid fwa
Na saeth, i amddiffyn ei swydd,
Nac oedran, ond diniweidrwydd:
Nid mynydd serth, trafferth,, trwch,
Mor niwliog, mawranialwch—
Nid llew o goed, nid all gwyr,
Ar osteg iddo rwystyr.
Llew a'm cyfarfu mewn llwyn,
Mawr, wrth glodfori morwyn;
Hwn a ffôdd ac a drôdd draw
Yn ol rhag ofn fy nwylaw.
Anghenfil nad ofnadwy!
A'i lodau mawr, a'i lid mwy.
Ni ddaeth erioed o goed y gell,
Ni ddychwel un mwy'i ddichell.
Rhowch fi mewn man heb blanwydd,
Heb wlad deg, heb weled dydd,
Na lloer, na gwres tês na'r tân,
Ond tywyllwch tew allan.
Rhowch fi tan wres haul tesboeth
I gwr y byd, ac awyr boeth
Yno y canaf, nwyf cynes,
Dy foliant di o flaen tês.

Syr Rhys y Gader a'i cânt, 1644.


DAFYDD IONAWR, (David Richards) ydoedd fab i John a