Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Catherine Richards, o Lan y morfa, ger Tywyn Meirionydd, lle y ganwyd ef yn 1752. Pan yn 14 oed, cymerwyd sylw o hono gan y Parch. E. Evans, (Ieuan Brydydd Hir), yr hwn oedd y pryd hyny yn gurad y plwyf hwnw, ei fod yn fachgen o athrylith, ond iddo gael meithriniad; a chafodd gan ei dad ei anfon i ysgol Ystrad Meurig, dan ofal Edward Richard, lle yr enillodd radd dda mewn gwybodaeth. Bu am beth amser mewn ysgol yn Ngwrecsam; ac wedi hyny efe a anfonwyd i Rydychain, ond ni arosodd yno i gael graddau, dychwelodd i gynorthwyo Mr. Tisdale, i Groesoswallt. O Groesoswallt efe a symudodd i Gaerfyrddin, i gynorthwyo y Parch. W. H. Barker, y ficer, yn yr ysgol yno. Bu wedi hyny yn cadw ysgol yn Nhywyn a Dolgellau. Felly, cafodd gychwyniad da gyda ysgoleigion penaf yr oes hono; a daeth yn ddysgedig fel rhifyddwr, Lladinwr, Groegwr, &c., yn bur fuan. Dywedir mai yn Ystradmeurig, pan tua deunaw oed, y cyfansoddodd "Gywydd y Daran." Yn 1770 cawn ef yn Ngwrecsam, yn is-athraw mewn ysgol, ac yn gohebu i'r Eurgrawn Cymraeg. Yn y flwyddyn 1779 y bu farw Richard Morris, brawd Llywelyn Ddu o Fon, pryd yr oedd Dafydd yn Nghaerfyrddin, a rhoddwyd ei farwnad yn destyn i ganu arno gan Gymdeithas y Cymrodorion; pryd y barnwyd Richard Jones o Fon, yn oreu, a D. Ionawr yn ail. Digiodd Dafydd yn erwin, ac ni chystadleuodd mwyach. Yn 1777, bu farw Edward Richard, Ystrad Meurig, a chanodd Dafydd Gywydd marwnad iddo, ac y mae yn un o'r darnau goreu o'i eiddo. Tua'r amser yma y bu yn cynorthwyo Walters yn nghyfansoddiad ei Eiriadur. Pan yn Nghaerfyrddin y dechreuodd y bardd ar ei Gywydd y Drindod," a chyhoeddodd hi yn 1793. Yn 1794 daeth D. Ionawr i fyw at ei noddwr caredig, Mr. Jones, y gwr a roddasai gymorth iddo i argraffu y Cywydd. Bu yno hyd 1800, yn diwygio ac yn helaethu "Cywydd y Drindod." Yn 1799, cyhoeddodd "Cywydd y Mil Blynyddoedd."—Yn 1809, "Cywydd Joseph."—Yn 1815, "Barddoniaeth Gristionogol."—Yn 1821, 'Cywydd y Diluw."—Yr oeddynt oll yn dal cysylltiad agos â "Chywydd y Drindod," ac yn fath o ychwanegiadau pwysig at y gwaith cyntefig. "Cywydd o goffadwriaeth am y diweddar anrhydeddus a thra dysgedig Syr William Jones," ydyw y diweddaf o'i eiddo, yn y flwyddyn 1826, pan yr oedd y Bardd yn 75 oed. Yr oedd gwrthddrych y Cywydd wedi marw er 1794. Bu Dafydd