Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

EDNYWAIN BENDEW, mab i Bradwen, penaeth un o Bymtheg Llwyth Gwynedd, oedd yn ei flodau yn y 12fed ganrif, ac yn preswylio mewn palas a elwid Llys Bradwen, yn agos i Ddolgellau. Y mae rhai o brif deuluoedd Meirionydd yn olrhain eu disgyniad o hono. Dygai ef a'i ddisgynyddion yn eu harfbais, "Gwles three snakes enowed in a triangular knot argent."—(CamRegister.)

EINION AB CADWGAN, o'r Nannau, ger Dolgellau, ydoedd dywysog ar ran o Bowys, yn y 12fed ganrif. Hynododd ei hunan. yn fawr mewn brwydrau yn erbyn y Saeson, dan Harri I. Gadawodd ei diriogaeth yn Mhowys, a rhan o Feirion a gymerasai oddiar Uchtryd ab Edwyn, i'w frawd, Meredydd.—(Myf. Arch. of Wales II., 552.)

EINION AB GRUFFYDD, o Dalyllyn, bardd yn ei flodau yn yr 17eg ganrif.

ELIS SION SIAMS, telynor enwog o Lanfachreth, yn Meirion. Dywedir iddo fod yn delynor i'r frenhines Anne.

ELLIS, DAVID, Ysw., o Nannau, a hanai o deulu y Gwynfryn, Eifionydd. Yr oedd yn ddadleuydd yn y Gyfraith, ac yn gyfreithydd cyffredinol ar gylchdaith sesiwnol Gogledd Cymru. Bu farw Mehefin 15, 1819, yn 60 oed.—(Lleyn MSS.)

ELLIS, Parch. THOMAS, ydoedd drydydd mab i'r Dr. John Ellis, archddiacon Meirionydd, a pherson Llandwrog, o deulu y Glasfryn. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn Nghaergrawnt, ¡le cyrhaeddodd glod uchel; a chynygiwyd iddo le fel gwyddonydd i negeseu wriaeth Iarll Musgrave i China; yr hyn a wrthododd. Cafodd bersonoliaeth Llanfachreth, a thrysoriaeth Eglwys Gadeiriol Bangor. Bu farw Chwefror 15, 1833.—(Lleyn MSS. )

EDWARDS, Parch. ROBERT, oedd weinidog yr efengyl gyda'r Annibynwyr yn Llanymddyfri. Cafodd ei eni mewn pentref a elwir Rhydymaen, Rhagfyr 23, 1825. Yr oedd Robert pedwerydd mab o wyth o blant a gafodd ei rieni, Robert a Gwen Edwards. Cafodd ei dderbyn yn aelod eglwysig yn y Brithdir, gan y Parch. H. James, Llansantffraid. Ar ol iddo symud o'r Brithdir i Rhydymaen cafodd yn fuan ei anog i arfer ei ddoniau fel pregethwr cyhoeddus; a chan i'r eglwys gael prawf boddhaol o'i gymwysderau i waith y weinidogaeth, anogwyd a chymeradwywyd ef i ymdrechu cael derbyniad i Athrofa y Bala. Wedi