iddo dreulio dwy neu dair blynedd yn y Bala, o dan ofal athrawol Parch. Michael Jones, cafodd ei dderbyn i goleg Aberhonddu, yn y flwyddyn 1848. Yr oedd ei gynydd mewn diwylliad meddyliol yn amlwg i bawb. Ni ddarfu iddo golli yr ysgolhaig yn y Cristion, na'r Cristion yn yr ysgolhaig. Ar derfyniad ei amser yn y coleg ymsefydlodd, trwy unol alwad yr eglwys, yn Salem, Llanymddyfri. Yr oedd amrywiol o arlinelliau rhagorol yn nodweddiad Mr. Edwards. Yr oedd ei alluoedd meddyliol yn fywiog a nerthol, ac ni fu erioed yn rhy ddiog i'w dwyn i weithrediad llwyr a llawn. Yr oedd ei dalentau yn yr areithfa y fath fel yr oedd yn bregethwr boddhaol, hyfryd, a defnyddiol. Nid aeth erioed i'r areithfa heb yn gyntaf wneyd parotoadau priodol ar gyfer hyny; ac ni thraddododd ei bregethau heb fod yn ddifrifol a gwresog. Yr oedd hefyd yn un cydwybodol iawn. Gweithredai bob amser fel un yn gyfrifol i Dduw am yr oll a wnai. Er ei holl addurniadau efe a aeth ymaith, gan roddi ei holl oglud ar ei Waredwr. Wedi treulio dwy flynedd a haner yn gystuddiol bu farw yn nhŷ ei frawd, yn Carno, Rhagfyr 20, 1854.
ELLIS, Parch. DAVID, a anwyd yn Hafod y meirch, yn mhlwyf Dolgellau, yn 1739. Cafodd ei ddysgeidiaeth dan yr enwog Edward Richard, yn Ystrad Meurig, yn sir Aberteifi. Urddwyd ef yn ddiacon yn Llanelwy yn 1764, ac yn offeiriad yn Mangor yn 1765. Y lle cyntaf a gafodd i'w wasanaethu ydoedd curadiaeth Llanberis, Sir Gaernarfon; wedi hyny, Llangeinwen, yn Môn; yna Derwen, yn sir. Ddinbych; yna symudodd i Amlwch, yn Môn. O'r diwedd cafodd bersonoliaeth fechan Llanberis, gan letya mewn fferm o'r enw Ty du (man genedigol yr athrylithgar Dewi Arfon) lle y dyddiwyd un o'i lawysgrifau (1786), lle y bu hyd 1790, pryd y dyrchafwyd ef i ficeriaeth Criccieth, yn Sir Gaernarfon, lle y bu farw Gorphenaf, 1795, yn 56 oed. Claddwyd ef yn mynwent Criccieth, ac ar ei wyddfa y mae beddlith led faith, yn coffhau ei aml rinweddau ef, o waith ei gyfaill, Dafydd Ddu Eryri. Y mae pob gwir garwr barddoniaeth Gymreig yn ddyledus neillduol i Dafydd Ellis am ei fawr lafur a'i ddichlyn ddiwydrwydd yn adysgrifenu gwaith yr hen feirdd allan o hen lyfrau wedi haner pydru, ac yn barod i gael eu claddu yn nghilfachau angof. Yn ei ewyllys ddiweddaf gadawodd ei holl ysgriflyfrau prydyddol i Dafydd Ddu, yr hwn oedd gyfaill caredig