ganddo; ac ymddengys eu bod weithian wedi dyfod i feddiant hynafiaethydd y Waenfawr. Gadawodd amryw roddion ar ei ol yn ei lythyr cymun. Gadawodd arian at ysgol i dlodion Criccieth tra bydd dwfr yn rhedeg. Nid ydys yn gwybod fod Dafydd Ellis wedi cyhoeddi nemawr ddim gwreiddiol o'i waith ei hun, oddigeith ychydig o gywyddau a charolau plygain; ond argraffwyd o leiaf dri llyfr o'i gyfieithiad :—1, "Gwybodaeth ac ymarfer o'r Grefydd Gristionogol, neu gynygiad i athrawiaethu'r Indiaid," o waith yr Esgob Wilson: Llundain, 1774. 2, "Llawlyfr o Weddiau ar achosion cyffredinol," o waith James Meyrick: Llundain, 1774. 3, "Histori yr Iesu Sanctaidd," gwaith W. Smith Trefriw, 1776. Cyhoeddwyd y tri gwaith byn pan yr oedd yn gurad Derwen. Yr oedd Dafydd Ellis hefyd yn dipyn o fardd. Cyfieithodd y "Penitent Shepherd," cerdd sanctaidd o waith Ieuan Brydydd Hir, o'r Saesneg, ar fesur cywydd, yr hon a welir yn argraffedig yn Mlodau Dyfed, t.d. 52 a 55. Cyfansoddodd hefyd alarnad ar farwolaeth y Prydydd Hir, yr hon a gyhoeddwyd yn Nhrysorfa Gwybodaeth, 8 plyg: Caernarfon, 1807. —(G. Lleyn MSS.; Brython, iii. t.d. 9; Geir Byw., Aberdâr; Geir. Byw., Lerpwl.)
ELLIS, Parch. JOHN, Llanarmon-yn-Ial, Sir Ddinbych, a fu farw Ebrill 2, 1862, yn 26 mlwydd oed. Tua blwyddyn a haner cyn ei farwolaeth yr aethai i'r weinidogaeth; felly nis gellir fod rhyw lawer i grybwyll am dano. Efe ydoedd fab hynaf y Parch. Robert Ellis, Brithdir, ger Dolgellau. Ymroddodd yn fore i'r Arglwydd, ac i'w bobl trwy ewyllys Duw. Cafodd ddysgeidiaeth dda pan yn ieuanc; eithr cyflwr gwanaidd ei iechyd a rwystrodd ei fynediad trwy y cylch arferol yn y colegau. Yr oedd yn weinidog ieuanc gobeithiol ac addawol iawn, ac mewn parch uchel gan ei frodyr yn y weinidogaeth, a chan yr eglwys oedd dan ei ofal. Tua thri mis cyn ei farwolaeth yr oedd wedi derbyn galwad oddiwrth eglwysi undebol Tanygrisiau a Rhiwbryfdir, Ffestiniog, gan fwriadu dechreu ei lafur gweinidogaethol yno yn nechreu Ebrill canlynol; ond ei Feistr nefol a fwriadasai fel arall. Claddwyd ef yn Rhydymaen, ger Dolgellau.
EVANS, Parch. JOHN; A.C., gwr enwog a flodeuai yn amser teyrnasiad Elizabeth a Iago I., a aned yn mhlwyf Llangelynin. Yr oedd yn aelod o athrofa Rhydychain. Wedi parhau felly dros