Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rai blynyddau efe a ymroddodd i astudio serddewiniaeth; a phan gafodd urddau santaidd efe a anrhydeddwyd â pherigloriaeth yn Enfield, Sir Stafford. Heliwyd ef oddiyno yn fuan oherwydd ei fuchedd anfoesol, ac ymsefydlodd yn Nghaerludd, ac yn fuan daeth yn dra enwog yno mewn serddewiniaeth a swynyddiaeth. Efe a gyhoeddodd lawer o almanaciau a daroganau; un o'r cyfryw am y flwyddyn 1613 a gyflwynir mewn llythyr Lladin i Esgob Worcester, ac amryw benillion Lladin rhagorol yn y diwedd. Mewn almanac am 1625 ceir yr hysbysiad canlynol ar ei ddiwedd :"At my house, the Four Ashes, in the parish of Enfield, within the county of Stafford, are taught these arts: to read and understand the English, Latin, Greek, and Hebrew, to know in a very short time; also, to write the running secretary, set secretary, Roman, Italic, and Court hands; also, arithmetic, and other mathematical sciences." Y mae llawer o chwedlau am ei orchestion swynyddol ar gael, ond y maent yn anheilwng o bapur ac inc.

EVANS, Parch. GREY, oedd weinidog gyda'r Annibynwyr yn Pennal, ger Aberdyfi. Ganwyd ef yn 1805. Bu Mr. Evans yn llafurio yn ffyddlawn iawn yn ngwaith y weinidogaeth am un-ar-ddeg o flynyddau. Cafodd y fraint o weled gradd o lwyddiant ar achos y Gwaredwr yn niwedd ei oes. Ar y 3ydd dydd o Awst, 1842, efe a hunodd yn yr Iesu, gan adael gweddw ac un plentyn ar ei ol i ofal Barnydd y gweddwon a Thad yr amddifaid. Claddwyd ef yn nghladdfa Hen Gapel Llanbrynmair. Cyn cychwyn o Pennal, ac yn Llanbrynmair, gweinyddodd y brodyr canlynol ar yr achlysur:—Y Parchedigion S. Roberts, Llanbrynmair; H. Morgans, Sama; J. Owens, Llanegryn; H. Lloyd a J. Thomas, Towyn; O. Thomas, Talybont; a S. Edwards, Machynlleth. Teimlid yn ddwys gan fyd ac eglwys ar ol colli Mr. Evans.

EVANS, Parch. HUMPHREY, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Nolgellau, gynt o Ystradgwyn, sir Feirionydd. Ganwyd ef yn Dolffanog, ger Dolgellau, yn y flwyddyn 1808. Wedi iddo fod yn pregethu am 26 mlynedd, cafodd ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Cyfrifid ef yn bregethwr Ysgrythyrol ac adeiladol. Byddem bob amser yn hoff iawn o glywed Mr. Evans, er nad oedd ei ddoniau traddodi yn helaeth iawn. Yr oedd rhywbeth anesboniadwy ynddo yn tynu serch, ato. Yr oedd yn ŵr cywir a chydwybodol; yn eofn dros yr hyn a ystyriai