Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef yn iawn a phriodol, ac yn un o dduwioldeb diamheuol. Bu farw pan nad oedd neb yn disgwyl, wedi ei daraw gan glefyd heintus, Chwefror 6, 1864.

FYCHAN, Parch. HENRY, A.C., ydoedd fab i John Fychan, o Gaethle, ger Tywyn Meirionydd. Derbyniodd ei ddysgeidiaeth yn Rhydychain, lle yr aeth efe fel cyffrediniad i Goleg Oriel, yn y flwyddyn 1632, y pryd hwnw yn un-ar-bymtheg oed. Wedi hyny etholwyd ef yn ysgolor o Goleg yr Iesu, lle, yn ol Wood, y bu am ryw hyd o dan ddisgyblaeth lem, ac enillodd urdd-raddiad yn y celfyddydau. Yr oedd efe yn bregethwr tra y cadwodd y brenin Siarl I. ei lys yn Rhydychain; ac yn Gorphenaf, 1644, cyflwynwyd iddo fywoliaeth neu ficeriaeth Pant Teg, ger Pontypwl, yn Sir Fynwy, gan y Brif Ysgol, trwy ddeddf a wnaed yn y Senedd, a dechreuodd yn Westminster, Tachwedd 5. Bu am ryw gymaint o amser yn athraw i Syr Leonine Jenkins. Bu am ryw ysbaid yn ficer Grantham, yn Swydd Lincoln. Yr oedd yn bregethwr rhagorol, ac yn selog iawn dros y Brenhinoedd Siarl I. a'r II. Pregethodd yn gyhoeddus yn erbyn y llywodraeth ag oedd mewn grym ar y pryd; ond er ei fod yn erbyn y weinyddiaeth fel llywodraeth wladol, yr oedd hefyd yn erbyn y seremoniau eglwysig; ac am hyny efe a garcharwyd pan ddaeth Siarl II., i'r orsedd, oblegid peidio a darllen Llyfr y Weddi Gyffredin. Aeth wedi hyny gyda'i deulu i Bermuda; ond oblegyd cael anghefnogaeth oddiwrth y Crynwyr, dychwelodd yn ei ol.—(Palmer's Calamy's Noncon. Mem., Vol. II., p.p. 416—18.) Yr oedd yn awdwr i'r llyfrau canlynol, y rhai a argraffwyd.—1, "Pregeth a bregethwyd o flaen Ty y Cyffredin yn Rhydychain, oddiar Matthew v. 20," ac a argraffwyd yn Rhydychain, yn y flwyddyn 1644.—2, "Dadl rhyngddo a J. Tombes, B.D., yn Eglwys St. Mair, yn y Fenni, Medi 5, 1653, yn mherthynas i fedydd plant," yn gyfrol pedwar plyg, ac a argraffwyd yn Llundain, yn 1661. Yr oedd llawer o weithiau awdwyr eraill ganddo mewn llawysgrifen, y rhai na wnaethant eu hymddangosiad trwy y wasg. Bu farw yn 1661.

FYCHAN, ROBERT, o'r Hengwrt, Yswain, a'r hynafiaethydd enwog. Ganwyd ef yn Hengwrt, ger Dolgellau, yn y flwyddyn 1592. Bu farw yn Hengwrt, yn y flwyddyn 1666, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys blwyfol Dolgellau. Efe a hanai lin o Cadwgan, ail fab Bleddyn ab Cynfyn, Tywysog Cymru yn