Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr unfed-ganrif-ar-ddeg. Un o brif aneddau Cadwgan oedd gerllaw Dolgellau, am hyny âchwyr a'i galwant "Cadwgan o Nannau." Madog, mab y Cadwgan uchod, a ymsefydlodd yn Nannau, a'i fab, a'i wyr. a'i orŵyr yn olynol; yna Meurig, mab hynaf Ynyr Fychan; ond Hywel ab Ynyr, ei frawd, a aneddodd yn y Wengraig, ar odrau Cadair Idris. Yno y bu ei ddisgynyddion hyd y chweched genhedlaeth ar ei ol, pryd y priododd Gruffydd ab Ynyr o'r Wengraig etifeddes yr Hengwrt, yr hon oedd ŵyres i'r Barwn Lewys Owain, o'r Llwyn. Mab o'r briodas hon oedd ein hynafiaethydd godidog, ac efe a ymsymudodd o'r Wengraig i dreftadaeth ei fam yn yr Hengwrt, lle y treuliodd ei oes yn casglu ysgriflyfrau o bob parth, pell ac agos. Cafodd Robert Fychan addysg da; aeth i'r brif ysgol fel cyffrediniad o Goleg Oriel yn y flwyddyn 1612, ac aeth trwy yr efrydiaethau arferol y dyddiau hyny—rhesymeg ac athroniaeth. Ymadawodd â'r brif ysgol heb ymdrechu am urdd-raddiaeth. Ymbriododd â Catherine, merch Gruffydd Nannau, Ysw., o'r Nannau, o'r hon y cafodd wyth o blant. Nid oedd Robert Fychan braidd un amser yn segur, a chadwai yn barhaus yn ei lyfrgell ysgrifenydd hylaw i'w gynorthwyo i adysgrifio hen lyfrau a ymddiriedid iddo gan ddysgedigion ac eraill o'i gydnabyddion. Yr oedd dau eraill o gasglyddion ysgrif-lyfrau yn gydoeswyr âg ef; un oedd Mr. John Jones, o'r Gellilyfdy, plwyf Ysgeifiog. Cydunodd hwn âg R. Fychan y byddai i gasgliad yr hwn a fyddai farw gyntaf fyned at drysorfa y byw. Yn ganlynol, pan fu farw Mr. Jones, aeth ei gasgliad, o gylch haner cant o ysgrif-lyfrau cynwysfawr, i lyfrgell yr Hengwrt i'w chwanegu at o gylch saith ugain o'r cyfryw lyfrau a gasglesid gan yr oesoedd hwyaf. Enwn rai o'r ysgrif—lyfrau a gasglwyd ynghyd gan ein hynafiaethydd yn yr Hengwrt:—1, Hen Lyfr o Gyfreithiau Dyfnwal, Maelgwn, Hywel Dda, a Bleddyn ab Cynfyn.—2. Llyfr Cyfreithiau yr hen Gymry, annarllenadwy o henaint.—3. Llyfr o Gyfreithiau yr hen Gymry, na chynwysir mewnl lyfrau ereill.—4. Llyfrau Morgan a Chyfnerth, Yncid.5. Y Llyfr Duo Gaerfyrddin.—6. Y Llyfr Gwyn o Hergest.—7. Llyfr Gwyn Rhydderch.—8. Y Cwta Cyfarwydd.—9. Meddyginiaeth Meddygon Myddfai.—10. Seryddiaeth.—11. Trioedd Ynys. Prydain.—12. Llyfr Coch Asaph.—13. Cyfrinach y Beirdd, o law Guttyn Owain.—14. Calendar Guttyn Owain.—15. Dwned